Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn cais gan Feddygfa Stryd Margaret, Rhydaman, i gau eu cangen o feddygfa, Tycroes.
Mae Tycroes wedi bod ar gau ers Chwefror 2020 oherwydd y pandemig COVID-19 ac roedd yr adeilad yn gwasanaethu fel ‘safle coch’ ar gyfer clwstwr Meddygon Teulu Aman Gwendraeth. Cyn y pandemig, defnyddiwyd y Gangen yn bennaf ar gyfer clinigau fflebotomi (profion gwaed).
Ers ei gau dros dro, mae cleifion Tycroes wedi defnyddio Meddygfa Stryd Marged, sydd tua dwy filltir i ffwrdd. Mae llwybr bws rheolaidd rhwng y ddwy Feddygfa.
Mae Meddygfa Stryd Marged, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Cyngor Iechyd Cymunedol yn gweithio gyda’i gilydd i ymgysylltu â chleifion y ddwy feddygfa i gael dealltwriaeth o sut y byddai cau yn effeithio ar gleifion. Mae cyfnod ymgysylltu yn cychwyn ddydd Llun 9 Mai ac yn para tan ddydd Gwener 24 Mehefin. Gall cleifion roi adborth drwy’r ffyrdd canlynol:
• Cwblhau ffurflen adborth mewn meddygfeydd a fferyllfeydd
• Ffonio 0300 303 8322, opsiwn 4
• E-bostio hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
• Ysgrifennu at Tracey Huggins, Pennaeth Gwasanaethau GMS, Tîm Gofal Sylfaenol, Canolfan Adnoddau Cymunedol Felinfoel, Felin-foel, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 8BE
• Ar-lein trwy www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk ac ap My Surgery
Petai Tycroes yn cau, mae’r manteision posibl i gleifion yn cynnwys mwy o apwyntiadau ar gael i’r holl gleifion ym Meddygfa Stryd Marged, gan na fyddai staff yn gweithio ar ddau safle, a gellid cynnig apwyntiadau cynharach a hwyrach o Stryd Marged.
Byddai cleifion yn dal i allu defnyddio Fferyllfa Tycroes a byddai’r Feddygfa yn parhau i anfon yr holl bresgripsiynau y gofynnwyd amdanynt i’r fferyllfa.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi ymrwymo i wrando ar ac ymgysylltu â phoblogaethau lleol ynghylch y cynnig i adleoli gwasanaethau Gofal Sylfaenol o Feddygfa Tycroes i Stryd Marged a byddem yn felly yn hoffi gwahodd cleifion i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r Feddygfa a’r Cyngor Iechyd Cymunedol drwy gydol y broses hon a byddwn yn hysbysu cleifion am ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu hwn.”
Dywedodd Is-Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda, Dr Barbara Wilson: “Mae gwasanaethau meddygon teulu mor bwysig i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Pan ddaw’r bwrdd iechyd i wneud ei benderfyniad am ddyfodol cangen Tycroes, mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn cael dweud eu dweud.
“P’un a yw pobl yn cefnogi’r cynnig hwn neu’n ei wrthwynebu, bydd y CIC yn sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael eu clywed a’u deall gan y bwrdd iechyd.”
Atgoffir cleifion bod gwasanaethau hefyd ar gael trwy fferyllfeydd cymunedol lleol sy’n cynnig ystod o wasanaethau arbenigol. Darganfyddwch fwy yma: Fferyllfa – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle