Bwrdd iechyd a staff ar restr fer gwobrau BAME cenedlaetho

0
332

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â nifer o’i staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Cenedlaethol Iechyd a Gofal BAME (BAMEHCA) 2022.

Mae’r BAMEHCA yn ddigwyddiad blynyddol, a gynhelir gan DiversityQ, sy’n cydnabod gwaith caled a gwydnwch gweithwyr proffesiynol BAME yn sectorau iechyd a gofal y DU.

Y staff sydd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn naw categori yw:

• Joe Jaimangal, Nyrs Arbenigol yn y Gwasanaeth Asesu Cof yn Sir Benfro ar gyfer nyrs BAME y flwyddyn

• Dr Tipswalo Day, ST7 Hyfforddai Arbenigol mewn Obstetreg a Gynaecoleg yn Ysbyty Glangwili ar gyfer Hyrwyddwr Clinigol

• Jefferson De Vera, nyrs staff ITU yn Ysbyty Tywysog Philip, ar gyfer Hyrwyddwr Clinigol

• Dr Rajeev Vaikanthanathan, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Ashgrove, Llanelli, ar gyfer Hyrwyddwr Clinigol

• Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol ar gyfer Menter Gymunedol y Flwyddyn

• Augusta Stafford-Umughele, Rheolwr Gweithlu, Diwylliant, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ar gyfer Arweinydd Tosturiol a Chynhwysol

• Dr Anand Ganesan, Seiciatrydd Ymgynghorol ar gyfer TIMC Caerfyrddin a CRHTs yng Nghanolfan Adnoddau Cae Ffynnon, Caerfyrddin ar gyfer Arweinydd Tosturiol a Chynhwysol

• Dr Premkumar Pitchaikani, Pediatregydd Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili ar gyfer Arweinydd Tosturiol a Chynhwysol

• Chris Martin, Rheolwr Newid Busnes Digidol, ar gyfer Hyrwyddwr Digidol

• Dr Hashim Samir, Radiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, ar gyfer Arweinydd Annog Amrywiaeth a Chynhwysiant

• Dr Akhtar Khan, Seiciatrydd Cyswllt Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, ar gyfer Menter Iechyd Meddwl

• Beverly Davies, Rheolwr Partneriaeth Strategol a Chynhwysiant ar gyfer Cyflawniad Eithriadol y Flwyddyn

• BIP Hywel Dda am Gyflawniad Corfforaethol Neilltuol y Flwyddyn

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Grŵp Cynghori BAME y bwrdd iechyd: “Rwy’n falch iawn o weld holl waith rhagorol ein cydweithwyr BAME yn Hywel Dda yn cael ei gydnabod yn genedlaethol. Mae’n wych bod cymaint o staff, a’r bwrdd iechyd ei hun, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn. Pob lwc i bawb a diolch am eich ymroddiad.”

Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Iau 9 Mehefin 2022 yn Llundain. I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Iechyd a Gofal Cenedlaethol BAME (BAMEHCA), ewch i The National BAME Health and Care Awards | Promoting BAME excellence in healthcare (bamehscawards.org)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle