Ymunwch â’r her 70 milltir i ddathlu pen-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 70 oed

0
358
Caption: Celebrate the Pembrokeshire Coast National Park's 70th anniversary on foot by joining one of a series of free guided walks.

Mae cyfres o deithiau cerdded wedi’u trefnu i roi cyfle i bobl ymuno yn y dathliadau i nodi 70 mlynedd ers dynodi Arfordir Penfro yn Barc Cenedlaethol.

Bydd y 12 taith gerdded am ddim, sy’n gyfanswm o 70 milltir ar droed, yn cael eu harwain gan staff a gwirfoddolwyr Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cewch gyfle i ymweld â rhai o leoliadau mwyaf eiconig Arfordir Penfro a dysgu mwy am rai o’i berlau cudd.

Dywedodd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae ymwelwyr a thrigolion Arfordir Penfro fel ei gilydd wrth eu bodd yn mynd am dro felly mae hwn yn gyfle heb ei ail i bobl ymuno â’r teithiau cerdded hyn am ddim.

“Dewiswyd y llwybrau hyn, rhwng dwy a saith milltir o hyd, yn ofalus gan Barcmyn ac arweinwyr teithiau. Mae yna amrywiaeth o lwybrau ar yr arfordir ar hyd rhannau adnabyddus o Lwybr yr Arfordir yn ogystal ag ardaloedd mwy gwledig fel Cwm Gwaun a Bryniau Preseli.

“Er efallai na fydd pawb yn gallu ymuno â phob taith gerdded, rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n cael eu hysbrydoli i ymgymryd â’u her 70 milltir eu hunain a darganfod mwy o’r hyn sydd gan y Parc Cenedlaethol i’w gynnig.”

Cynhelir y daith gyntaf yn Sychpant yng Nghwm Gwaun ar 18 Mai rhwng 1pm a 3pm a bydd yr ail daith ar 8 Mehefin rhwng 10am a 3pm ar Benrhyn Marloes. Cynhelir gweddill y teithiau rhwng mis Mehefin a Medi.

Mae llefydd yn brin felly rhaid archebu lle. I weld y teithiau cerdded sydd ar y gweill ac i archebu eich lle, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/70am70/

Er bod y teithiau cerdded am ddim, mae croeso i chi roi cyfraniad i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Os hoffech godi arian i’r Parc Cenedlaethol fel rhan o’r her, gall yr Ymddiriedolaeth eich helpu i greu tudalen codi arian JustGiving. I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/ neu anfon e-bost at support@pembrokeshirecoasttrust.wales.

I gael gwybod mwy am gerdded yn y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys gwybodaeth am dros 200 o lwybrau, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/cerdded.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle