Lansio hanesyddol yn ddechrau ar gyfnod newydd i’r Ardd

0
442

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dathlu lansio swyddogol ei phrosiect  Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth yn dilyn blwyddyn pan welwyd y niferoedd mwyaf erioed o ymwelwyr a chael cymeradwyaeth hael am yr atyniad newydd.

Mae’r dirwedd sydd newydd ei hadfer ac sydd wedi ennill gwobrau niferus ers iddi agor i’r cyhoedd ym mis Mawrth 2021, wedi helpu codi’r ffigurau wedi helpu codi ffigurau ymwelwyr yr atyniad yn Sir Gaerfyrddin bron i 200,000  – y nifer blynyddol mwyaf ers agor yr Ardd ym mis Mai 2000.

Golygodd y gwaith adfer nodweddion tirwedd o gyfnod y Rhaglywiaeth, wedi’i chreu diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19edd ganrif ar gyfer Syr William Paxton, lle mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las erbyn hyn.  Mae yma ddau lyn newydd, pontydd, argaeau,  gorlifannau a rhwydwaith helaeth o lwybrau i gyd mewn 300 erw o barcdir coediog.

Mae’r rhan newydd  hon wedi ei chyflwyno am wobrau arbennig. Ym mis Mawrth eleni enillodd wobr ryngwladol bwysig Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) yng nghategori Gwobr Dewis y Bobl. Enillodd y prosiect hefyd Wobr Alun Griffiths gan ICE Cymru am Ymgysylltu â’r Cyhoedd a dod yn ail yng ngwobrau’r Grŵp Sioraidd.

Meddai Catrin Evans, y Cyfarwyddwr Dros Dro, “Mae’r dasg anferth hon wedi bod yn ymdrech arbennig gan dîm, wedi ei sbarduno gan ymgyrch ryfeddol i godi arian, ymwneud cadarn y gymuned bob cam o’r daith, a gwaith rhyfeddol gan wirfoddolwyr, staff, dylunwyr, ecolegwyr, crefftwyr lleol, penseiri, peirianwyr a llawer iawn rhagor.

“Mae’r cyfuniad hwn o fotaneg, tirwedd, treftadaeth ac amaethyddiaeth sydd wedi ei greu mor grefftus yn dod â buddiant i’r cyhoedd sy’n ymweld yn ogystal â’r diwydiant twristiaeth ehangach.”

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, “Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol sy’n werthfawr inni a ninnau am ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.  Mae’r prosiect hwn yn enghraifft eithriadol o ddod â’r gorffennol yn fyw inni i ddysgu o ddoe, mwynhau heddiw a’i drosglwyddo i yfory.

“Mae’r prosiect yn fwy na thirwedd: mae’n gynefin, yn stori hanes, yn lle i ymlacio ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr am nifer flynyddoedd.”

Perchnogion gwreiddiol yr ystâd lle saif yr Ardd Fotaneg heddiw oedd y teulu Middleton, a ddechreuodd lunio gerddi ffurfiol o ddiwedd yr 16fed ganrif.

Bu’n rhaid aros nes i’r ystâd gael ei phrynu ym 1789 gan yr AS dros Gaerfyrddin, Syr William Paxton, nes i’r tir ddod yn wirioneddol bwysig.

Comisiynwyd Samuel Lapidge, disgybl i’r pensaer byd-enwog, Capability Brown, i ddylunio’r dirwedd a’r gerddi i gynnwys parc dŵr arloesol a dŵr yn llifo o gwmpas yr ystâd yn cael ei gysylltu gan rwydwaith o argaeau, llifddorau, pontydd a gorlifannau. 

Gan ddefnyddio’r defnydd ffynhonnell o luniau dyfrlliw o’r ystâd wedi eu comisiynu’n arbennig ym 1815, mae’r prosiect nawr wedi trawsnewid y 300 erw yn rhyfeddod o goetir a dŵr.

Bydd y prosiect yn cael ei lansio’n swyddogol ddydd Gwener 27 Mai.

* Hoffai Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddiolch o galon i’n holl noddwyr sydd wedi cefnogi’r prosiect hwn, gan gynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – a phawb sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Esmée Fairbairn, y Sefydliad Waterloo, The Pilgrim Trust, Country Houses Foundation, Ymddiriedolaeth Patsy Woods, The Monument Trust, Sefydiad Garfield Weston, Mercers’ Company ac yn olaf – ond nid y lleiaf o bell ffordd -Ymddiriedolaeth Richard Broyd am eu cefnogaeth amhrisiadwy. 

Mae prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth yn bosibl oherwydd y bobl sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol gan godi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da. Dim ond un o fwy na 635,000 o achosion da yn y DG yw hwn sydd wedi cael cyfran o fwy na £41 biliwn  a godwyd gan bobl yn cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol ers 1994.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle