Ddydd Llun, 23/05/2022 am 11:47am, cafodd diffoddwyr tân o Drefaldwyn eu galw i dân mewn sied yn ardal Yr Ystog, Trefaldwyn.
Roedd y tân wedi tarddu o goelcerth a osodwyd yn rhy agos at y sied ac roedd hefyd wedi lledu i glawdd cyfagos a choeden.
Diffoddwyd y tân ddiffoddwyr tân yn defnyddio dwy jet rîl pibell a chamera delweddu thermol.
Gadawodd y Gwasanaeth Tân y digwyddiad am 01:15pm.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog pobl i ystyried yn ofalus a oes angen llosgi eu sbwriel ac yn lle hynny i ddefnyddio gwasanaethau gwaredu gwastraff eu hawdurdod lleol.
Cyngor Allweddol ar Ddiogelwch
Os yw’n hanfodol eich bod yn llosgi eich sbwriel a’ch gwastraff gardd ar goelcerth, yna dilynwch y rheolau syml hyn sy’n cael eu hyrwyddo gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân:
- Yn y lle cyntaf, a yw hyn yn gwbl angenrheidiol?
- Os yw yn angenrheidiol, yna dylid gosod coelcerthi yn ddigon pell i ffwrdd oddi wrth adeiladau, ffensys, coed, ac adeiladau ac adeiladweithiau gardd.
- Os yn bosibl, dylid llosgi sbwriel gardd mewn llosgydd gardd. Dylid gosod y llosgydd gardd ar arwyneb gwastad nad yw’n llosgadwy, er enghraifft slab patio.
- NI DDYLID defnyddio hylifau neu gyflymyddion fflamadwy i gynnau’r goelcerth.
- Dylid goruchwylio’r goelcerth trwy’r amser.
- Dylai dull o reoli’r goelcerth fod wrth law, e.e. piben ddyfrhau.
- Rhaid gwirio’r gyfraith/deddfau lleol bob amser i sicrhau cydymffurfedd.
- Mewn achos brys dylid ffonio 999.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle