Heddiw (dydd Mercher, 25 Mai), mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi £26m i gyfyngu ar ôl troed carbon twristiaeth yng Nghymru, hybu bioamrywiaeth a gwella mynediad i gefn gwlad fel y gall pawb fwynhau ei harddwch.
Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad wrth iddi agor rhwydwaith cerbydau trydan (EV) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – credir mai dyma’r rhwydwaith mwyaf helaeth mewn unrhyw barc cenedlaethol yn y DU gyda 74 o bwyntiau gwefru.
Esboniodd y Gweinidog y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy a chefn gwlad Cymru yn fwy gwydn yn dilyn twf gwyliau gartref yn ystod y pandemig.
Mae rhai o’r ffyrdd y caiff ei ddefnyddio yn cynnwys:
- gwella cyfleusterau trafnidiaeth a thwristiaeth, yn enwedigmewnmannau poblogaidd i dwristiaid
- gwella rhwydweithiau llwybrau troed gan ganolbwyntio’n benodol ar fynediad i bobl anabl
- ariannu prosiectau a fydd yn gwella Parciau Cenedlaethol Cymru fel y gallant storio carbon yn well a darparu gwell amddiffyniad i fywyd gwyllt
Meddai’r Gweinidog:
“Wrth i fwy o bobl ddarganfod cefn gwlad Cymru, mae’n rhaid i ni sicrhau y gall ddelio â’r pwysau.
“Ein gweledigaeth yw cefn gwlad lle gall cymunedau barhau i weithio a ffynnu, lle gall ymwelwyr fwynhau tra’n gadael ôl troed yn unig ar ôl, a lle gall planhigion a bywyd gwyllt ffynnu unwaith eto.
“Mae natur yn rhoi’r offer i ni fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac yn ein galluogi i deimlo’n well yn ein hunain pan fyddwn yn cysylltu ag ef – mae’n iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ofalu amdano.”
Mae Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cwmpasu 25% o arwynebedd Gymru ac yn chwarae rhan fawr wrth alluogi pobl o bob cefndir i gael mynediad i gefn gwlad yn ddiogel.
Yn gartref i fawndiroedd, tir fferm a rhywogaethau sydd mewn perygl, ystyrir bod rheoli cefn gwlad yn effeithiol yn amhrisiadwy wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Yn ystod ei hymweliad â gorllewin Cymru, cyfarfu’r Gweinidog hefyd â chynllun mynediad i’r anabl ar draeth Saundersfoot, sy’n darparu cadeiriau olwyn wedi’u cynllunio’n arbennig fel y gall defnyddwyr lywio’r tir tywod yn rhwydd.
Cyfarfu hefyd â grŵp cerdded lleol sy’n dweud bod eu cyfarfodydd cymdeithasol i grwydro eu hardal wedi gwella eu hiechyd meddwl.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae buddsoddi mewn mynediad i’r awyr agored yn un o brif bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer y manteision niferus y mae’n eu darparu.
“Y tu hwnt i gyfleoedd economaidd twristiaeth, profwyd bod cysylltu â natur yn gwella iechyd meddyliol a chorfforol.
“Mae prosiectau arloesol fel Llwybr Arfordir Cymru yn galluogi cerddwyr i droedio ei harfordir 1400km o hyd, tra bod cynlluniau ar y gweill i greu Coedwig Genedlaethol i Gymru sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de o’r wlad.”
Ychwanegodd Tegryn Jones, Prif Swyddog Gweithredol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Mae’r cyllid hwn wedi ein helpu i sicrhau bod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gael ar draws ein Parc Cenedlaethol, gan ein symud ymhellach tuag at ein nod o ddod yn Barc Cenedlaethol sero-net.
“Yn ei dro, bydd hyn yn galluogi mwy o drigolion, ymwelwyr a busnesau i leihau eu hôl troed carbon a chefnogi ymgyrch barhaus yr Awdurdod, sy’n annog pobl i ‘droedio’n ysgafn’ yn ystod eu taith i Arfordir Sir Benfro.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle