Elusennau Iechyd Hywel Dda yn codi arian ar gyfer Bronglais Chemo Appeal

0
480
Carys Jones with collection bucket

Mae’r cynorthwyydd dysgu Carys Jones wedi codi mwy na ÂŁ9,000 ar gyfer #ApĂȘlCemoBronglais gyda thaith gerdded 40 milltir a rhediad tractor.

Mae hi’n gobeithio cyrraedd ÂŁ10,000 drwy gynnal noson bingo gyda raffl yng Nghlwb Rygbi #Tregaron ar 2 Mehefin am 7pm, ac mae croeso i bawb.

Carys Jones – walkers outside Tregaron Rugby Club

Cerddodd Carys a mwy nag 20 o deulu a ffrindiau – gan gynnwys ei brawd Aled Jones, ei chwaer Gwenan Hodgson a’i efaill Caryl Jones – 40 milltir mewn 24 awr o’r clwb rygbi i Ysbyty #Bronglais ac yn îl.

“Mae ein mam, Glenys, yn cael cemotherapi ar hyn o bryd ac mae hi’n dweud bod y staff yn wych,” meddai Carys. “Rydym mor ffodus i gael yr uned yn agos atom a bydd cael uned newydd bwrpasol gyda mwy o breifatrwydd hyd yn oed yn well.

Carys Jones tractor run

“Aeth y daith gerdded yn dda iawn. Cawsom gymaint o gefnogaeth ac rydym fel teulu yn ddiolchgar iawn amdano. Roedd mam wrth ei bodd.

“Hefyd fe drefnodd ein hewythr Rhydian Lloyd rediad tractor o’r clwb rygbi ar lwybr gwledig 14 milltir yn îl i’r clwb i hybu’r codi arian, a ddenodd fwy na 30 o dractorau.”

Os hoffech chi gyfrannu at godwr arian Carys, ewch i https://hyweldda.enthuse.com/pf/carys-jones

Carys Jones – walkers outside Bronglais

Nod ApĂȘl Cemo Bronglais yw codi’r ÂŁ500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf yn fawr.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ApĂȘl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle