Ethol y Cynghorydd Rob Evans yn Gadeirydd newydd y Cyngor Sir

0
295
Chair 2022 - Cllr Rob Evans

Dywedodd Cadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin ei fod yn bwriadu codi arian ar gyfer dwy elusen sy’n agos at ei galon yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Mae’r Cynghorydd Rob Evans, aelod dros Ward Dafen a Felin-foel, yn cymryd y gadwyn swyddogol wrth ddathlu blynyddoedd lawer fel cynghorydd gwledig Dafen.

Wrth gymryd y gadeiryddiaeth talodd y Cynghorydd Evans deyrnged i’r cadeirydd a oedd yn gadael ei swydd, y Cynghorydd Eirwyn Williams gan ddweud ‘bod ganddo esgidiau mawr i’w llenwi.’

Y Cynghorydd Evans fydd Cadeirydd y Cyngor am y 12 mis nesaf, gyda’r Cynghorydd Louvain Roberts, yr aelod dros Glanymôr, fel ei Is-gadeirydd, a’i wraig y Cynghorydd Nysia Evans fel ei gydymaith.

“Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn i ddod, rydym yma i’r preswylwyr ac mae fy nrws bob amser ar agor,” meddai.

Mae’r Cynghorydd Evans wedi dewis Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Llanelli, sy’n darparu gofal lliniarol arbenigol i gymuned Sir Gaerfyrddin, fel Elusennau’r Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn.

Dywedodd: “Gan i mi fod yn glaf yn Hosbis Tŷ Bryngwyn rwyf wedi profi’n uniongyrchol pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth hwn – mae’n lle gwych ac mae’r gwaith y maent yn ei wneud yn anhygoel. Hefyd, Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n dibynnu’n llwyr ar arian cyhoeddus, yw ein hangylion yn yr awyr, ac rwyf wedi gweld drwy fy swydd y gwaith rhyfeddol y maent yn ei wneud – maent yn achub bywydau.”

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Ymhlith dyletswyddau’r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli’r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i’r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a’u cefnogi.

Mae’r Cynghorydd Evans wedi bod yn Gynghorydd Sir ers 2017, ac yn aelod o Gyngor Gwledig Llanelli yn ystod 2004-08, 2012-2017 a heddiw.

Mae’n cynrychioli’r Cyngor Sir yn Ward Dafen a Felin-foel yn Llanelli, mae’n gadeirydd Lleng Brydeinig Frenhinol Llanelli ac mae ar gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Dafen ac Ysgol Uwchradd Bryngwyn.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Coleshill, mae’r Cynghorydd Evans wedi gweithio fel parafeddyg gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn fwyaf diweddar fel parafeddyg cofrestredig y wladwriaeth sy’n darparu hyfforddiant Cymorth Cyntaf ac mae wedi derbyn dwy wobr ddewrder leol am achub bywydau.

Mae’n gefnogwr rygbi brwd, yn mwynhau pysgota â phlu, teithio ac ymweld â beddau rhyfel y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd yn Ffrainc.

Mae’n briod â dau o blant ac mae ganddo ddau o wyrion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle