Rhannwch eich lluniau o Arfordir Penfro i gael cyfle i ennill gwobrau gwych

0
267
Caption: Submit your photos to help celebrate 70 years of the Pembrokeshire Coast National Park.

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl; cartref, gwaith neu hoff le gwyliau i lawer dros y 70 mlynedd diwethaf. Nawr, gallwch ennill gwobrau gwych drwy rannu eich hoff luniau o’r dirwedd arbennig hon.

Gyda’r Parc Cenedlaethol yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 eleni, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro angen eich help chi i ddatblygu oriel luniau ar-lein yn cynnwys lluniau sy’n dangos sut mae’r ardal wedi newid ers iddi gael ei dynodi’n Barc Cenedlaethol yn 1952.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Bydd gan lawer ohonom atgofion melys o’r amser rydyn ni wedi’i dreulio ar Arfordir Penfro, o ymweliadau i’r traeth yn blant i luniau o bobl yn gweithio yn yr ardal.

Capsiwn: Cyflwynwch eich lluniau i helpu i ddathlu 70 mlynedd o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

“Er ein bod yn gobeithio cael digon o luniau o’r blynyddoedd cynnar ar ôl i’r Parc Cenedlaethol gael ei ddynodi, mae croeso i bobl gyflwyno unrhyw luniau o unrhyw flwyddyn, o dirweddau trawiadol i’r rheini sy’n dangos sut mae lleoliadau wedi newid dros amser, gan gynnwys effaith newid yn yr hinsawdd.”

Yn ogystal â chael eu cynnwys mewn oriel ar-lein, bydd y lluniau’n cael eu defnyddio i helpu pobl eraill i ddysgu am y Parc Cenedlaethol mewn digwyddiadau ledled y sir, gan gynnwys sgyrsiau gan Barcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Bydd pawb sy’n cyflwyno llun i’r gystadleuaeth yn cael eu cynnwys mewn raffl, gyda’r gwobrau’n cynnwys pecynnau dydd a hetiau gan y cwmni Columbia, yn ogystal â phosteri retro o reilffyrdd.

Daw’r gystadleuaeth i ben hanner nos, dydd Gwener 31 Medi 2022. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap a byddant yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2022.

I lwytho eich lluniau i fyny a gweld yr holl delerau ac amodau, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/ffoto70.   


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle