Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn galw am ragor o brentisiaid ethnig leiafrifol

0
410
Humie Webbe, Apprenticeships Strategic Equality and Diversity Lead for the NTfW.

Mae ffederasiwn o dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith gyda sicrwydd ansawdd, sydd â chysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru, wedi croesawu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd aelodau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn ymroi i gyrraedd un o nodau’r cynllun, sef cynyddu nifer y bobl ethnig leiafrifol sy’n dechrau ac yn cwblhau prentisiaethau.

Mae’r Cynllun, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, wedi’i seilio ar brofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol. Mae’n cyflwyno cyfres o gamau gweithredu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl wrth i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol.

Mae’r camau a nodir yn canolbwyntio ar y ddwy flynedd nesaf, fel rhan o’r weledigaeth o greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. 

Ymhlith nodau a chamau gweithredu’r Cynllun ceir meysydd polisi ym mhob rhan o’r llywodraeth, yn cynnwys iechyd, diwylliant, cartrefi a lleoedd, cyflogadwyedd a sgiliau, ac addysg. Telir sylw hefyd i arweinyddiaeth a chynrychiolaeth yn Llywodraeth Cymru ac ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl y Cynllun, y 10 Deiliad Contract Arweiniol sy’n cyflenwi prentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru – pedwar darparwr hyfforddiant annibynnol a chwe choleg addysg bellach – fydd yn gyfrifol am fonitro ac am sicrhau bod rhagor o bobl ethnig leiafrifol yn dechrau ac yn cwblhau prentisiaethau.

Er na phennwyd targed penodol i ddarparwyr hyfforddiant ei gyrraedd, mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i weld tystiolaeth bod rhagor o bobl ethnig leiafrifol wedi dechrau prentisiaeth erbyn mis Rhagfyr 2022 a bod y cynnydd hwnnw’n cael ei gynnal yn y dyfodol.

Gofynnir i’r Deiliaid Contract Arweiniol amlygu a rhannu arferion da a meysydd i’w gwella trwy Grŵp Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a ffurfiwyd gan yr NTfW.

Bydd Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW, yn dal i gydweithio’n agos â’r darparwyr prentisiaethau i sicrhau bod y nod hwnnw’n cael ei gyrraedd.

Ar ôl gweld darparwyr hyfforddiant yn cyrraedd nod a bennwyd o’r blaen gan Lywodraeth Cymru, sef sicrhau bod rhagor o bobl anabl yn gwneud prentisiaethau, mae hi’n hyderus y byddant yn barod i wynebu’r her.

Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn dangos bod canran y prentisiaid anabl yng Nghymru wedi codi o 1.2% i 9.4% rhwng 2016 ac eleni. https://llyw.cymru/rhaglenni-dysgu-prentisiaeth-ddecreuwyd-dangosfwrdd-rhyngweithiol  .

“Rwy’n credu ei bod yn ddogfen dda iawn sy’n cryfhau ac yn chwyddo lleisiau pobl sydd wedi profi hiliaeth,” meddai Humie. “Bydd angen i ddarparwyr hyfforddiant symud o fod yn anhiliol i fod yn wrth-hiliol a bod yn fwy rhagweithiol yn y ffordd maen nhw’n gweithio gyda chymunedau.

“Yn fy marn i, mae’r cynllun gweithredu hwn yn borth i hunanystyried ac mae’n gyfle i bob sefydliad wneud yn well. Bydd rhaid i bawb sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ddweud pa gamau y maent yn eu cymryd i gyrraedd nodau a bennir a dangos eu hymdrechion i fod yn wrth-hiliol.

“Mae’r baich ar Ddeiliaid Contract Arweiniol prentisiaethau yn awr i fod yn fwy rhagweithiol am y ffordd y maent yn ymgysylltu â phobl ethnig leiafrifol ac yn eu hannog i gymryd rhan yn y rhaglen brentisiaethau. Fe fyddan nhw’n gyfrifol am fonitro’r hyn maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n ei wneud ac am fesur yr effaith.

“Maen nhw wedi cael eu harfogi â set o gamau i’w helpu i ymgysylltu â chymuneau er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr ethnig leiafrifol. Fy nhasg i yw eu galluogi i wneud mwy a bydd y cynllun hwn, yn sicr, yn fy helpu yn fy ngwaith.”

Mae Humie yn cynnwys darparwyr hyfforddiant mewn cyfres o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd gyda’r nod o agor y drws i bobl o gymunedau ethnig leiafrifol i wneud prentisiaethau. Cynhelir un o’r digwyddiadau hynny ar y cyd â’r Romani Cultural & Arts Company yn Ysgol Gynradd Maendy, Casnewydd ar 29 Mehefin i bobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Mae hi hefyd yn annog darparwyr hyfforddiant i lofnodi adduned Dim Hiliaeth Cymru ac i gefnogi Wythnos Ffoaduriaid 2022, Mehefin 20-26, trwy wneud un neu fwy o’r wyth Gweithred Syml, a ysbrydolwyd gan y thema Iacháu – https://refugeeweek.org.uk/simple-acts/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle