Darganfod dolydd ar garreg eich drws ar Ddiwrnod Dolydd Agored Sir Benfro

0
375
Capsiwn: Manteisio i'r eithaf ar Ddiwrnod Dolydd Cenedlaethol ar 2 Gorffennaf drwy ymweld ag un o'r safleoedd sy'n cymryd rhan yn Niwrnod Dolydd Agored Sir Benfro.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog pobl i wneud y gorau o Ddiwrnod Dolydd Agored Sir Benfro ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf, gyda giatiau’n agor i’r cyhoedd ledled y sir i nodi Diwrnod Dolydd Cenedlaethol.

Mae mwy na deg lleoliad yn cymryd rhan yn y digwyddiad, sy’n cael ei drefnu gan Grŵp Dolydd Sir Benfro, sy’n ceisio dod â pherchnogion dolydd presennol a darpar berchnogion at ei gilydd, i gymdeithasu a rhannu eu profiadau.

Dywedodd Clare Wimperis a Nancy Miles: “Mae Diwrnod Dolydd Agored wedi’i ysbrydoli gan y cynllun Gerddi Agored a’r nod yw annog ymwelwyr i weld, arogli ac archwilio’r mannau gwerthfawr a phwysig hyn ledled Sir Benfro, rhai ohonynt nad ydynt fel arfer ar agor i ymwelwyr.”

Dywedodd Swyddog Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Julie Garlick: “Mae rhai o’r safleoedd wedi cael help i adfer y dolydd fel rhan o gynllun Gwarchod y Parc, a’r gobaith yw y bydd mwy o bobl yn cael eu hysbrydoli i reoli eu tir mewn ffordd sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn cefnogi pryfed peillio.

“Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld y dolydd ar eu hanterth yr adeg hon o’r flwyddyn gan y byddant yn llawn blodau amrywiol fel cribell felen, pys y ceirw, suran, blodyn ymenyn a llygad-llo mawr.

“Efallai bydd rhai pobl hyd yn oed yn ddigon ffodus o weld tegeirianau, fel tegeirian brych y rhos a thegeirian-y-gors ddeheuol. Os yw hi’n ddiwrnod braf a chynes, dylai fod digon o bryfed o gwmpas hefyd, fel cacwn, ieir bach yr haf a phryfed peillio pwysig eraill.

“Er na fydd dôl Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Skrinkle Haven yn gallu cymryd rhan eleni, oherwydd bod ffyrdd ar gau gyfer Long Course Weekend, mae’r ddôl ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn ac mae’n gyfle arall i bobl fwynhau’r dolydd o’u cwmpas.”

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn bartner ym mhrosiect Mangificent Meadows Plantlife, sydd wedi arwain y gwaith o greu Grŵp Dolydd Sir Benfro.

I gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp Dolydd Sir Benfro a’r lleoliadau sy’n cymryd rhan yn Niwrnod Dolydd Agored Sir Benfro, ewch i https://pembrokeshiremeadows.co.uk/category/news-events/.

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Gwarchod y Parc, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/gwarchodaeth.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle