I ffwrdd i borfeydd newydd…14 o ffermwyr uchelgeisiol wedi’u dewis ar gyfer Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio 2022

0
204

O atafaelu carbon i dyfu amrywiadau o wenith treftadaeth, ac o ymchwilio i botensial planhigfa de yng Nghymru i iechyd anifeiliaid – dyma rai o’r pynciau amrywiol i’w hymchwilio gan yr 14 ymgeisydd a ddewiswyd ar gyfer  rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio eleni.

Mewn proses ddewis a dethol drylwyr ar-lein, gofynnwyd i bob ymgeisydd esbonio’r hyn yr oeddent am ei ddysgu, sut y byddent yn defnyddio eu gwybodaeth newydd a lle roeddent yn bwriadu ymweld, sydd eleni’n cynnwys busnesau a phrifysgolion yn y DU, yr Almaen, Ffrainc, Awstria, yr Iseldiroedd, Sweden, Gwlad Pwyl, Hwngari a Latfia.

Cadeiriwyd y panel beirniaid gan Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sydd ochr yn ochr â Lantra Cymru, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a longyfarchodd yr ymgeiswyr llwyddiannus eleni.

“Mae’r rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth yn annog ffermwyr a choedwigwyr i ddysgu am ffyrdd newydd neu well o weithio, i gael mynediad i ymchwil a gweld drostynt eu hunain rai o’r systemau mwyaf llwyddiannus yn y diwydiannau ffermio, bwyd a thir.”

“Mae’r dysgu a’r canlyniadau sydd eisoes yn cael eu rhoi ar waith gan lawer o ymgeiswyr blaenorol y Gyfnewidfa Rheolaeth yn argoeli’n dda ar gyfer cynaliadwyedd a hyfywedd hirdymor busnesau ffermio yng Nghymru.”

“Yn bwysig iawn, mae’r canlyniadau hefyd yn argoeli’n dda ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, i’r ffermwyr ifanc sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant – ac mae’n rhaid i ni feithrin eu hymrwymiad hirdymor a’u teyrngarwch – yn ogystal â’r rhai sy’n ymuno â’r diwydiant am y tro cyntaf,” meddai Mrs Williams.

Nodau’r rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth yw galluogi cyfranogwyr i ymchwilio i ffyrdd arloesol neu fwy effeithlon o weithio, a fydd yn ehangu eu gwybodaeth, eu gallu technegol a’u harbenigedd o ran rheoli trwy ymweld â busnesau ffermio neu fusnesau coedwigaeth llwyddiannus eraill. Mae’r rhai a ddewisir hefyd yn cael y cyfle i groesawu rheolwr fferm neu goedwigaeth profiadol sydd wedi’i hyfforddi’n briodol i ymweld â’u daliad.

Bydd disgwyl i gyfranogwyr llwyddiannus rannu eu canfyddiadau o’u profiad dysgu trwy sianeli cyfathrebu arferol Cyswllt Ffermio a’r rhaglen ddigwyddiadau, er mwyn sicrhau bod eu gwybodaeth newydd yn cael ei rhannu â’r diwydiant ehangach.

Mae gwybodaeth fanwl am bob un o’r ymgeiswyr eleni, ble maent yn bwriadu ymweld, a beth maent yn gobeithio ei ddysgu ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio – https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle