Cyfle i bobl ifanc ymgeisio am fwrsari o £1,000

0
621
Llun: Taflen Bwrsariaeth Pobl Ifanc Ceredigion

Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyfle gan gwmni West Wales Holiday Cottages i gefnogi pobl ifanc gyda bwrsari ariannol eleni eto.

Bwriad y bwrsari yw cynnig cyfle gwerth £1,000 i bobl ifanc rhwng 11-25 fedru ymgeisio amdano, i’w helpu gyda’u dyheadau yn y dyfodol. Dewisir y cais neu geisiadau llwyddiannus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion, sy’n banel o bobl ifanc o bob rhan o Geredigion.

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Rydym yn ddiolchgar iawn ac yn werthfawrogol i West Wales Holiday Cottages am roi’r cyfle hwn i ni ar gyfer pobl ifanc yng Ngheredigion eleni eto. Fel ein hunain, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod y gall nifer o bobl ifanc sy’n byw yng Ngheredigion brofi anawsterau wrth gael mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd materion economaidd-gymdeithasol. Roedd y fwrsariaeth yn hynod o lwyddiannus y llynedd, gyda thri pherson ifanc yn cael cymorth ariannol i’w helpu gyda’u prosiectau. Rydym yn gobeithio bydd y fwrsariaeth yn llwyddiant eto eleni, ac y bydd o fudd i berson neu pobl ifanc yng Ngheredigion.”

Oes angen cymorth ariannol arnoch i gyrraedd eich nodau? A fyddech chi’n elwa o gymorth ariannol i’ch helpu gyda hyfforddiant neu offer sydd eu hangen ar gyfer eich galwedigaeth ddewisol? Ydych chi’n chwilio am gefnogaeth i gychwyn eich menter eich hun? Neu ydych chi’n aelod o grŵp cymunedol ac yn chwilio am gymorth ariannol i brynu offer neu adnoddau?

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Mercher, 10 Awst 2022. Cysylltwch â Gwion Bowen ar 07790 812939 neu e-bostiwch Gwion.Bowen@ceredigion.gov.uk am ffurflen ymgeisio.

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook, Instagram neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar PorthCymorthCynnar@ceredigion.gov.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle