Mae pobl â diabetes Math 2 yn cael cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen chwe wythnos o hyd a fydd yn eu helpu i reoli eu cyflwr.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Nyrsys Diabetes Arbenigol a Dietegwyr Diabetes Arbenigol y bwrdd iechyd. Bydd pob sesiwn wythnosol yn para dwy awr a hanner, a bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys:
- Beth yw Diabetes?
- Treuliad a glwcos yn y gwaed
- Hunan-fonitro, meddyginiaethau, rheoli pwysau
- Ymwybyddiaeth o garbohydradau
- Cymhlethdodau posibl Diabetes
- Gosod nodau
Cynhelir y sesiynau yn y lleoliadau canlynol:
- Canolfan Antioch, Heol Copperworks, Llanelli SA15 2NE: Dydd Iau 7 Gorffennaf – Dydd Iau 11 Awst rhwng 10am a 12:30pm
- Maes Mwldan, Bath House Road, Aberteifi SA43 1JZ: Dydd Llun 4 Gorffennaf i ddydd Llun 8 Awst o 10am – 12:30pm
- Clwb Criced Dale Rd, Hwlffordd, SA61 1HZ Dydd Iau 8 Medi i ddydd Iau 13 Hydref o 10am – 12:30pm
I sicrhau lle yn unrhyw un o’r canolfannau uchod, cysylltwch â’r Adran Rhaglen Addysg i Gleifion ar 01554 899035, neu e-bostiwch EPP.HDD@wales.nhs.uk.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle