Wrth i bobl ifanc ledled Cymru adael yr ysgol ac ystyried y cam pwysig cyntaf yn eu gyrfa, mae ffederasiwn o 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yn eu cynghori bod dilyn prentisiaeth yn “ddewis doeth”.
Dywed Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) fod dros chwarter busnesau Cymru’n ffafrio prentisiaethau dros unrhyw gymhwyster arall. Mae cyflogwyr yn recriwtio prentisiaid er mwyn creu gweithlu brwd a ffrwd o dalent at y dyfodol.
Mae prentisiaethau’n cynnig y cyfuniad delfrydol o ddysgu ac ennill cyflog, fel y gall prentisiaid barhau â’u haddysg ac ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth weithio ochr yn ochr â staff profiadol.
Maent yn agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac fe gynigir cymorth pwrpasol fel y gall pob prentis weithio’n hyderus ac elwa ar yrfa lwyddiannus.
Yn ystod oes weithiol rhywun, bydd pobl sydd â sgiliau swydd-benodol yn ennill £100,000 yn fwy na’r phobl heb grefft. Mae’n rhaid i brentisiaid ar ddechrau eu gyrfa dderbyn o leiaf isafswm cyflog prentis, ond mae llawer o gwmnïau’n talu mwy na hyn.
Mae swyddi ar gael mewn 23 o sectorau, yn amrywio o adeiladwr, triniwr gwallt, cogydd a chynorthwyydd deintyddol i beiriannydd, dadansoddwr seiberddiogelwch, ariannydd banc a gosodwr prif bibellau nwy. Mae prentisiaethau ar gael ar bedair lefel, gyda rhywbeth sy’n addas i bob dysgwr.
Mae Prentisiaeth Sylfaen yn cyfateb i bum pàs TGAU da, mae Prentisiaeth yn cyfateb i basio dau Lefel A, mae Prentisiaeth Uwch yn cyfateb i HNC/HND neu lefel Gradd Sylfaen ac uwch, ac mae Prentisiaeth Gradd yn cyfateb i radd baglor lawn.
Mae Prentisiaethau Gradd ar gael yn y sectorau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Caiff prentisiaid ddysgu’n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd John Nash, cadeirydd yr NTfW: “Mae prentisiaeth yn ffordd wych o barhau â’ch addysg. Byddwch yn gweithio gyda’ch cyflogwr a’ch darparwr hyfforddiant gan feithrin sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau a all arwain at yrfa am oes.
“Ar ben hynny, byddwch yn ennill cyflog o’r dechrau’n deg. Byddwn yn annog pawb sy’n gadael yr ysgol i ystyried prentisiaeth fel eu cam nesaf mewn bywyd.”
Un ferch a wnaeth “ddewis doeth” yw Codi Wiltshire sydd newydd gwblhau ei Phrentisiaeth Uwch (Lefel 6) mewn Gweinyddu Busnes gyda’r darparwr hyfforddiant Educ8. Dyma’i seithfed cymhwyster ers iddi ymuno â’r gwerthwyr nwyddau adeiladu, Jewson yn Llanfair-ym-Muallt yn 2015.
Mae taith brentisiaethau Codi wedi cynnwys Prentisiaethau Sylfaen mewn Busnes ac Arwain Tîm, Prentisiaethau mewn Gweinyddu Busnes a Gwasanaeth Cwsmer ac ILM Lefel 3.
Cafodd ddyrchafiad i fod yn rheolwr cynorthwyol y llynedd ac mae’n gobeithio symud ymlaen i ILM Lefel 4 pan fydd yn gwireddu ei huchelgais o fod yn rheolwr.
“Dwi ddim yn credu bod pobl yn sylweddoli beth sy’n dod o ddilyn prentisiaeth,” meddai Codi. “Os ewch chi i goleg neu brifysgol, does dim sicrwydd y cewch chi swydd ar y diwedd a fydd gennych chi ddim profiad o weithio.
“Yn fy marn i, prentisiaeth yw’r peth gorau a wnes i erioed. Pan fyddwch yn brentis, rydych chi’n cael eich talu ac yn dysgu wrth weithio. Dwi bob amser yn annog pobl i wneud prentisiaeth.
“Roeddwn i’n meddwl mai dim ond am flwyddyn, i wneud fy nghymhwyster cyntaf, y byddwn i yn Jewson a dyma fi, saith mlynedd yn ddiweddarach, yn barod i symud ymlaen i fod yn rheolwr.
“Dwi wedi dal ati i astudio achos dwi wrth fy modd yn ennill cymwysterau. Mae diweddaru fy CV yn deimlad gwych.”
Gall pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol ac a hoffai gael cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu fynd i https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 0800 028 4844 i gael gwybod sut i fynd o’i chwmpas.
I rai nad ydynt yn barod am brentisiaeth, mae syniadau gwych am ddysgu sgiliau newydd, ysgrifennu CV a chyngor am waith yn https://cymrungweithio.llyw.cymru
Gall cyflogwyr yng Nghymru ddysgu mwy am fanteision cyflogi prentis trwy fynd i https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau neu ffonio 03000 6 03000.
Picture caption:
Codi Wiltshire – “prentisiaeth yw’r peth gorau a wnes i erioed”.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle