Penderfyniad i ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe – diweddariad

0
311

Mae gweinyddiaeth newydd Clymblaid yr Enfys yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot wedi arwyddo ei bod yn dymuno adolygu’r penderfyniad a wnaed o ran ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe. Mae’n ceisio sefydlu a oes ffyrdd amgen o ddod â safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif i Gwm Tawe a fyddai’n fwy derbyniol i’r gymuned.

Gwnaed y penderfyniad i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg a Chanolfan Gefnogi Addysg i ddisgyblion â datganiad Anhwylder Sbectrwm Awtistig, gwerth £2.27m i blant 3-11 oed ym Mhontardawe, i gymryd lle ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre’r-graig a Llan-giwg, gan Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar Hydref 20, 2021.

Arweiniodd y penderfyniad at ddechrau proses o gyfathrebu ag ysgolion lleol ynghylch y camau nesaf a’r cynllunio cyffredinol ar gyfer adeiladu’r ysgol newydd a phwll nofio.

Cynhaliwyd ymarfer tendro llwyddiannus i sicrhau fod contractiwr yn ei le i ddechrau ar Gam Un o broses dau gam.

Dan reolau caffael y cyngor ei hun, bu’n rhaid cymeradwyo penodi’r contractiwr i ymgymryd â gwaith contract Cam 1 yn unig, ac nid yw’r cyngor dan unrhyw rwymedigaeth i barhau i’r ail gam. Mae Cam 1 yn cynnwys datblygu’r wybodaeth gynllunio; gwneud asesiadau trafnidiaeth ac amodau’r safle; ymchwiliadau tir; a chael caniatâd cynllunio.

Nid yw’r cam cyntaf yn ymrwymo’r cyngor i adeiladu’r ysgol a’r pwll, a byddai angen dechrau ar gytundeb newydd adeg Cam 2, sef y cam adeiladu go iawn.

Mae caniatâu i waith Cam 1 fynd yn ei flaen yn sicrhau y gellid parhau i gwrdd ag amserlenni penderfyniad Hydref 2021 pe na bai adolygiad yn tynnu sylw at unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r prosiect.

Bydd hyn yn osgoi rhoi mwy o bryder i staff a theuluoedd yr ysgol oherwydd oedi diangen, sy’n arbennig o bwysig i’r disgyblion hynny o Ysgol Gynradd Godre’r-graig sy’n cael eu haddysgu mewn adeiladau dros dro ar hyn o bryd, wrth aros am yr ysgol newydd.

Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dechrau trafod gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru nawr i sefydlu pa wybodaeth y gallen nhw fod angen ei chael oddi wrth y cyngor. Bydd hyn yn addysgu’r broses ymgynghori y bydd y cyngor yn ymgymryd â hi gyda rhanddeiliaid.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle