“NID YDYM YN HAEDDU DIM LLAI” DADL PLAID CYMRU YN GALW AR Y DU I AIL-YMUNO Â’R FARCHNAD SENGL

0
409
Luke Fletcher MS

“O ran mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw presennol, ni ddylai unrhyw ateb fod oddi ar y bwrdd”

Mae Plaid Cymru yn dod â dadl i’r Senedd heddiw (dydd Mercher 6 Gorffennaf) yn galw ar i’r Deyrnas Unedig ail-ymuno â’r farchnad sengl i hybu masnach a chyfleoedd.

Mae gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau yn costio biliynau i’r DU mewn refeniw masnach a threth a gollwyd, ac mae miloedd o aelwydydd yng Nghymru eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw cynyddol.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher AS, yn dweud”o ran mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw presennol, ni ddylai unrhyw ateb fod oddi ar y bwrdd.

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn rhagweld y bydd allforion a mewnforion tua 15% yn is yn y tymor hir na phe bai’r DU yn aros yn yr UE ac wedi dod i’r casgliad hefyd na fydd cytundebau masnach newydd â gwledydd y tu allan i’r UE yn cael effaith sylweddol.

Mae dibyniaeth fwy Cymru ar fasnachu gyda’r UE wedi golygu bod ein heconomi wedi dioddef mwy o’r cwymp economaidd sy’n gysylltiedig â’r rhwystrau newydd.

Fodd bynnag, mae Llafur Cymru wedi cyflwyno gwelliant sy’n ‘dileu popeth’ o gynnig Plaid Cymru ac yn ei ddisodli gan y gobaith bod gan y DU y fasnach “agosaf bosibl” gyda’r UE, ond yn peidio ag egluro sut y bydd hyn yn gweithio y tu allan i ymuno â’r farchnad sengl.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher AS:

“Mae gormod o bobl yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd talu am unrhyw beth ond yr hanfodion – ac mae rhai eisoes yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta.

“Mae gadael y farchnad sengl wedi costio biliynau i’r DU mewn refeniw masnach a threth a gollwyd, ac mae dibyniaeth fwy Cymru ar fasnach gyda’r UE wedi golygu bod ein heconomi wedi dioddef mwy.

“Yn y cyfamser, nid oes gan y Torïaid ddiddordeb mewn helpu’r rhai sy’n cael trafferth gyda chostau ynni a bwyd cynyddol, nid yw cynllun Llafur y DU yn cynnig unrhyw wrthwynebiad gwirioneddol, ac mae angen i Lafur Cymru wneud eu safbwynt yn glir – os ydyn nhw wir eisiau’r fasnach ‘agosaf bosib’ gyda’r UE, yna pam mae eu gwelliant yn dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd?

“Nid yw hyn yn ymwneud ag ymladd yr hen frwydrau dros ganlyniad y refferendwm, ond mae hyn yn ymwneud â chael sgwrs aeddfed am ein perthynas fasnachu yn y dyfodol gyda’n cymdogion agosaf.

“O ran mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw presennol, ni ddylai unrhyw ateb fod oddi ar y bwrdd, ac mae’r opsiwn o ail-ymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau i hybu masnach a chyfleoedd yn fwy na teilwng o drafodaeth. Yn wir, nid ydym yn haeddu dim llai.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle