Goldies Cymru CD

0
245

Ar ôl cael eu gorfodi gan Covid i ganslo eu holl sesiynau Canu a Gwenu HWYL yn 2010, aeth Elusen Golden-Oldies â’u sesiynau canu wythnosol HWYL ar-lein.

www.goldieslive.com

Fe wnaeth ‘canu soffa’ gyflwyno Cheryl Davies, arweinydd sesiwn Goldies yng Nghymru, i gynulleidfa wythnosol o bobl hŷn ar draws y Deyrnas Unedig.

“Roedd canu Cheryl mor boblogaidd fel bod yr elusen wedi cynhyrchu CD ohoni yn perfformio rhai o’r alawon mwyaf poblogaidd sydd mor boblogaidd gyda’n pobl hŷn”, meddai Grenville Jones, sefydlydd yr Elusen.

Rhestr caneuon – gweler diwedd y datganiad.

Fe wnaeth llawer o gartrefi preswyl a mudiadau cymorth i’r henoed ffrydio’r sesiynau ddwywaith yr wythnos gyda Cheryl yn dod yn llais (ac wyneb) poblogaidd ‘Goldies’, fel y caiff ei alw fel arfer.

Rhoddir y CD trac dwbl gyda phum cân noblogaidd o’r 50au i bawb sy’n ôl yn mynychu ac yn mwynhau eu sesiynau poblogaidd mewn neuaddau eglwys, ystafelloedd cymunedol a llyfrgelloedd.

“Mae Cheryl yn arwain gwaith yr Elusen yng Nghymru, gan arwain sesiynau. Fodd bynnag drwy’r CD gall pobl fwynhau ei chanu yn eu cartrefi hefyd”, ychwanegodd Grenville. “Mae ganddi lais gwych ac mae ‘trac dwbl’ ar y CD, felly mae’n ddeuawd gan Cheryl!”

Gyda chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol yng Nghymru bydd Goldies Cymru yn cyflwyno sesiynau newydd i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr gan weithio gyda Dementia Matters ym Mhowys a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) yn yr wythnosau i ddod, gan ymateb i’w cais ‘rydym eisiau sesiynau Goldies yn ein hardal os gwelwch yn dda!”

Sefydlwyd Elusen Golden-Oldies yn 2007 gan Grenville Jones, arweinydd côr sy’n byw yng Nghaerfaddon. O ddim ond pedair sesiwn yn ystod y dydd mewn ystafelloedd cymunedol, gydag ef ei hun yn arwain, tyfodd i dros 200 (cyn Covid) ar draws Lloegr a Chymru (Goldies Cymru) lle caiff ei chefnogi gan Sefydliad Moondance.

Syr Cliff Richard yw Llywydd Golden-Oldies.

Wrth i gyfyngiadau godi, mae’r elusen wedi medru dod â’i sesiynau canu hwyliog mewn ystafelloedd cymunedol, neuaddau eglwys a llyfrgelloedd yn ôl ar draws y Deyrnas Unedig.

“Proses araf oedd hi i ddechrau,” meddai Grenville, ond mewn misoedd diweddar, yn Lloegr a hefyd yng Nghymru, MAE GOLDIES YN ÔL.

“Mae nod yr Elusen yn eithaf syml, sef dod â phobl ynghyd drwy sesiynau cymdeithasol drwy ganeuon poblogaidd o’r 60au ymlaen, gan ddod ag atgofion o ddyddiau fu ac atgofion annwyl. Rheswm i fynd allan, cwrdd â ffrindiau newydd a GWENU.

“Mae unigrwydd a bod yn ynysig yn broblem fawr ar draws cymunedau ac rydym yn gweithio’n galed i ddod â’n sesiynau poblogaidd yn ôl mewn mwy o ardaloedd yn y misoedd i ddod. Mae pawb wrth eu bodd gyda sesiwn canu dda!” meddai Grenville.

Yn Lloegr cafodd 65 o sesiynau Canu a Gwenu eu hail-lansio ar draws y wlad, o Bradford yn Swydd Efrog i Gernyw, gyda 35 ar y gweill ar gyfer Cymru erbyn diwedd 2022.

Mae cefnogaeth wych gan lawer o sefydliadau ac ymddiriedolaethau wedi galluogi’r elusen i ymateb i lawer o geisiadau ar gyfer grwpiau Goldies, gan ateb y galw am weithgareddau cymdeithasol hwyliog yn ystod y dydd ar gyfer oedolion sydd wedi bod yn unig yn y pandemig.

Mae’r sesiynau newydd yn cynnwys rhai yn nwyrain Llundain, Havering Asian Welfare Association, sy’n cynnal sesiwn Canu a Gwenu draddodiadol wrth ochr cân a dawns Bollywood Goldies. Mae Canolfan Gymunedol a theulu Inns Court ym Mryste yn sesiwn newydd arall a ddechreuwyd i roi prynhawn o adloniant.

Mae’r Elusen wedi croesawu wyth o arweinwyr sesiwn newydd i’w tîm dros y chwe mis diwethaf ac maent yn awyddus i recriwtio arweinwyr newydd. Cysylltwch ag Emma yn swyddfa Goldies ar 01761 470006 neu emma@golden-oldies.org.uk i gael mwy o wybodaeth am waith yr Elusen.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle