Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn dathlu tri phen-blwydd arbennig wrth ymweld â Chapel Sant Gofan

0
281
Capsiwn: Ymwelodd EUB Tywysog Cymru â Chapel Sant Gofan heddiw.

Ymwelodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru â Chapel Sant Gofan ger Bosherston heddiw fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau ledled y wlad i ddathlu Wythnos Cymru 2022.

Roedd yr ymweliad â San Gofan yn cyd-fynd â dathliad pen-blwydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 70 oed, pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed a phen-blwydd Gwylwyr y Glannau EM yn 200 oed.

Ar ôl cael ei groesawu gan Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Dyfed, a’r Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, aeth y Tywysog ar daith o amgylch y cysegrfan 800 oed a’r Ffynnon Sanctaidd yng nghwmni Lynne Houlston, Parcmon y Parc Cenedlaethol i’r Ystad Milwrol.

Capsiwn: Ymwelodd EUB Tywysog Cymru â Chapel Sant Gofan heddiw.

Yna cyfarfu’r Tywysog â swyddogion Awdurdod y Parc i drafod rhai o beiriannau cynnal a chadw arloesol Llwybr yr Arfordir wrth eu gwaith gan dynnu sylw at y gwaith cadwraeth hanfodol sy’n cael ei wneud i ddiogelu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd y Cynghorydd Di Clements: “Roedd yn fraint cael croesawu Tywysog Cymru i un o’r llecynnau mwyaf dramatig ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn y flwyddyn bwysig hon yn hanes y Parc.

“Yn ogystal â darparu lloches i lawer o blanhigion ac anifeiliaid sydd wedi diflannu o rannau eraill o’r DU, roedd y Parc hefyd wedi cynnig lloches i lawer o bobl yn ystod y pandemig diweddar.

“Er bod gan bob rhan o Arfordir Penfro ei rinweddau unigryw ei hun, mae Maes Tanio Castellmartin yn arbennig gan ei fod yn dangos sut y gall gweithgarwch milwrol, hanes, cadwraeth bywyd gwyllt a mynediad cyhoeddus blethu gyda’i gilydd yn llwyddiannus.”

Capsiwn: Ymwelodd EUB Tywysog Cymru â Chapel Sant Gofan heddiw.

Hefyd yn ystod yr ymweliad, croesawyd cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rheoli Llwybr Arfordir Cymru, wrth iddyn nhw ddathlu deng mlynedd gofiadwy o’r llwybr arbennig hwn. 

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:”Mae Llwybr Arfordir Cymru a’n Parciau Cenedlaethol yn rhan annatod o’n hunaniaeth genedlaethol, gan annog cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn i fynd y tu hwnt i’r atyniadau ymwelwyr traddodiadol ac i ddarganfod popeth sydd gan arfordir a chefn gwlad Cymru i’w gynnig.

“Wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed eleni, rydyn ni’n gwybod bod ein gwaith ar Lwybr Arfordir Cymru yn mynd i fod yn waddol hollbwysig i genedlaethau’r dyfodol. Mae’r Llwybr wedi creu lle ar gyfer byd natur a phobl – o’r clogwyni serth lle mae’r pâl yn nythu i dirnodau hanesyddol a diwylliannol byd enwog. Cewch ddewis mynd allan ar droed i ymlacio a gorffwyso neu fynd ar deithiau cerdded bywiog ac egnïol wrth ymweld â rhai o’r cyrchfannau gorau yn y wlad.

“Rydyn ni’n falch o’r rôl rydyn ni wedi’i chwarae yn dod â’r Llwybr yn fyw dros y degawd diwethaf, gan weithio’n agos gyda chymunedau a phartneriaid fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ddangos y gorau o Gymru. Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro heddiw wrth iddyn nhw ddathlu eu pen-blwydd arbennig eu hunain yn 70 oed. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ymlaen at barhau â’r bartneriaeth bwysig hon ac rydym yn falch iawn ein bod yma i ddathlu’r cerrig milltir arbennig hyn yn San Gofan heddiw, ochr yn ochr â Thywysog Cymru.”

Roedd cynrychiolwyr o Wylwyr Gwylwyr y Glannau EM hefyd yn bresennol i gwrdd â Thywysog Cymru, gan edrych yn ôl dros 200 mlynedd o wasanaeth.

Dywedodd Tom Larkin, Uwch Swyddog Gweithrediadau Arfordirol San Gofan: “Roedd yn anrhydedd cael fy nghyflwyno fel cynrychiolydd Gwylwyr y Glannau, ochr yn ochr â Swyddog Gorsaf San Gofan Paul Culyer a Dirprwy Swyddog Gorsaf Gregg Hayes, a ymunodd â mi i groesawu Tywysog Cymru.

Capsiwn: Ymwelodd EUB Tywysog Cymru â Chapel Sant Gofan heddiw.

“Rydym yn hynod falch o gyrraedd ein carreg filltir o ddau gan mlynedd ac roeddem yn hapus i gael y cyfle i rannu ychydig o’r hanes hwnnw.

“Mae gwirfoddolwyr a staff yn rhan annatod o’r ddwy ganrif ddiwethaf, ac mae gan bob Swyddog Gwylwyr y Glannau etifeddiaeth falch o achub llawer o fywydau.

“Mae’n golygu llawer bod Tywysog Cymru wedi cydnabod ein cyfraniadau fel tîm ac fel sefydliad.”

Estynnwyd croeso hefyd i’r rheini sy’n cyfrannu at hanes a rheolaeth Ystad Castellmartin.

I gydnabod cyfraniad Awdurdod y Parc at Wobr Dug Caeredin, gwahoddwyd y Tywysog hefyd i gwrdd â swyddogion yr Awdurdod sydd wedi bod ynghlwm wrth y Wobr dros y blynyddoedd hyd heddiw. Yn eu plith oedd Mr Steve Drinkwater MBE. Ac yntau ar hyn o bryd yn Gadeirydd Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, roedd Steve yn gyn-Reolwr Addysg a Chynhwysiant Awdurdod y Parc ac mae wedi bod yn Arweinydd Gwobr Dug Caeredin ers 1989.

Wrth ffarwelio â’r Tywysog, cyflwynodd y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc, brint wedi’i gomisiynu’n arbennig o Gapel Sant Gofan yn arddull posteri retro traddodiadol yr Awdurdod mewn ffrâm o bren derwen Sir Benfro.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle