Bu’r Mentrau Iaith gyd-weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg dros fisoedd y gwanwyn a’r haf yn cynnig teithiau cerdded ar hyd a lled Cymru gyda neb llai na’r naturiaethwr enwog Iolo Williams yn arwain ar bedair ohonynt. Roedd y teithiau yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd wrthi’n dysgu Cymraeg ynghyd â phobl sydd yn medru’r iaith yn barod, i allu cyd-gerdded a chyd-siarad yn Gymraeg gyda’i gilydd. Medd Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru:
“Mae’r Mentrau Iaith yn arbenigo ar ddarparu cyfleoedd i bobl allu defnyddio eu Cymraeg, gan annog pawb i siarad rhywfaint, dim ots pa mor fach, ond bod pawb yn cael y cyfle i ddefnyddio’r iaith ym mhle bynnag y bĂ´nt. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn arbenigo ar ddysgu iaith ac yn cynnig llu o ddosbarthiadau i siaradwyr Cymraeg newydd, felly roedd hi’n gam naturiol i ni gyd-weithio ar allu cynnig y cyfleoedd arbennig hyn.”
Trefnwyd teithiau awyr agored mewn ardaloedd amrywiol iawn gyda Iolo Williams yn arwain ar deithiau yn Margam (CNPT), Dinbych, Cwm Idwal (Gwynedd) a pharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Libanus yn fwyaf diweddar. Dywed Iolo:
“Mae gwrando ar y bobl yn siarad Cymraeg o’m amgylch tra’n cerdded wedi codi nghalon i – mae dyfodol yr iaith [Gymraeg] yn eu dwylo nhw, mae angen mwy o bobl i ddysgu Cymraeg. Mae hi wedi bod yn bleser cyd-weithio gyda’r Mentrau Iaith yn lleol ar y teithiau hyn a hefyd gyda’r Ganolfan Dysgu er mwyn sicrhau y cyfleoedd ychwanegol hyn i gael ymarfer iaith.”
Un fu ar un o’r teithiau cerdded yng Nghwm Idwal, Eryri, oedd Susan Lewis o Ddeganwy. Noda Susan:
“Mi ddysgais i gymaint am fywyd gwyllt a’r ardal efo Iolo Williams a mwynheais i siarad yn Gymraeg efo pawb arall. Roedd yn drefnus iawn. Heddiw dwi yn siarad mwy o Gymraeg yn fy ngwaith.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod her cynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg i filiwn erbyn y flwyddyn 2050 gan hefyd ddyblu nifer defnyddwyr y Gymraeg. Mae’r teithiau cerdded hyn hefyd wedi gosod her o filiwn o gamau, medd Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg:
“Trefnwyd 16 o deithiau cerdded amrywiol a phasiwyd miliwn o gamau erbyn y 12fed taith! Mae’r ymateb wedi bod yn wych a’r diddordeb i gerdded ein hardaloedd hynod wedi bod yn grĂŞt i weld. Dyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gyd-weithio gyda’r Mentrau Iaith er mwyn cynnig rhagor o gyfleoedd amrywiol i ddefnyddio’r Gymraeg. Un peth sydd ar y gweill yw’r Cwis Mawr fydd yn digwydd yn Eisteddfod Tregaron eleni ac edrychwn ymlaen at gael gweld pwy yw’r bobl mwyaf peniog ymhlith ein siaradwyr newydd am eleni!”
Bydd y Cwis Mawr yn digwydd ar y 30ain o Orffennaf am 4yp ym Maes D gyda Lisa Gwilym ac Alun Williams yn arwain trwy fyn y cwestiynau.
Am ragor o wybodaeth pwy yw eich Menter Iaith lleol i chi ewch i: https:// mentrauiaith.cymru/dod-o-hyd-i-fenter/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle