Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwneud gweithwyr asiantaeth hirdymor yn aelodau parhaol o staff fel rhan o’i ymrwymiad i ‘Gwaith Teg Cymru’.
Yn ei Gynllun Corfforaethol diweddaraf, mae’r Cyngor wedi addo lleihau nifer y gweithwyr asiantaeth ar aseiniadau hirdymor.
Dan y polisi newydd, bydd pob gweithiwr asiantaeth sydd wedi bod ar aseiniad parhaus yn yr un gwasanaeth yn y Cyngor am o leiaf bedair blynedd yn cael cynnig contract parhaol heb orfod mynd drwy broses recriwtio, yn amodol ar gamau gwirio cyn cyflogi perthnasol.
Bydd y rhai sydd wedi bod ar aseiniad parhaus yn yr un gwasanaeth am o leiaf ddwy flynedd, ond llai na phedair blynedd, yn cael cynnig contract dros dro. Ar ôl i’r cyflogai gwblhau pedair blynedd – gan ystyried ei wasanaeth drwy asiantaeth a’i wasanaeth dan gontract dros dro – bydd yn cael ei drin fel cyflogai parhaol.
Mae’r polisi newydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr beidio â defnyddio gweithwyr asiantaeth os ydynt yn credu y bydd yr aseiniad yn fwy na 12 mis o hyd, oni bai y rhoddir cynnig ar bob sianel recriwtio arferol heb lwyddiant.
Mewn adroddiad newydd, mae swyddogion y Cyngor wedi argymell mabwysiadu’r polisi dros dro newydd a bydd cabinet y Cyngor yn ei drafod yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 14 Gorffennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: “Mae’r polisi hwn yn cyd-fynd yn llwyr â Chomisiwn Gwaith Teg Llywodraeth Cymru a’i adroddiad ‘Gwaith Teg Cymru’ sy’n argymell bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli’n deg a’u bod yn gallu symud ymlaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol lle mae hawliau’n cael eu parchu.
“Mae gwaith teilwng hefyd yn helpu i greu economi gryfach, wedi’i moderneiddio a mwy cynhwysol ac yn cyfrannu at dwf a ffyniant cenedlaethol ac yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, lleihau tlodi a hyrwyddo lles.
“Rydym nawr yn bwriadu gweithio gyda’n partneriaid o’r undebau dros y chwe mis nesaf i sicrhau bod y polisi newydd yn bodloni’r diffiniad ‘Gwaith Teg’ gan gynnwys llais y cyflogai a chydgynrychiolaeth, sicrwydd a hyblygrwydd, a pharchu hawliau cyfreithiol. Bydd newidiadau’n cael eu hadolygu, mewn ymgynghoriad â’r undebau llafur, gyda’r nod o sicrhau bod y Cyngor yn gwneud ei orau glas i gyflawni ei ymrwymiadau gwaith teg”
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y tri undeb llafur, y GMB, Unsain ac Unite: “Rydym yn croesawu’r symudiad hwn gan y Cyngor i ddod â gweithwyr asiantaeth i gontractau cyflogaeth. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r Cyngor a’r undebau wedi bod yn gweithio tuag ato. Mae’n bwysig bod gweithwyr asiantaeth yn cael y cyfle hwn ac wrth symud ymlaen byddwn yn gweithio gyda’r Cyngor i fonitro cynnydd y cynllun dros y chwe mis nesaf gan sicrhau bod buddiannau’n cael eu gwireddu’n llawn.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle