Cyhoeddi mai Bwyd a Diod Cymru yw noddwr y National Geographic Traveller Food Festival

0
395
Allie Thomas of Cradocs Savoury Biscuits

Mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi’i ddatgelu fel noddwr y National Geographic Traveller Food Festival eleni, dathliad o fwyd a theithio a fydd yn dod â rhai o enwau mwyaf y byd coginio ynghyd ac yn arddangos blasau o bob cornel o’r byd.

Cynhelir y National Geographic Traveller Food Festival dros ddau ddiwrnod o 16-17 Gorffennaf 2022 yn y Business Design Centre yn Llundain, ac mae’n ddigwyddiad llawn sêr a fydd yn cynnig cyfle i ymwelwyr ehangu eu gwybodaeth a datblygu eu chwaeth, boed hynny trwy diwtorial gwin, dosbarth meistr coginio yn dangos bwyd penodol, arddangosiad byw gan gogydd enwog neu gyfweliad gydag awdur llyfrau coginio o fri.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae chwe chwmni o Gymru hefyd yn arddangos yn yr ŵyl fwyd, pob un yn gobeithio datblygu partneriaethau newydd, siarad ag arbenigwyr a selogion ar draws y sectorau bwyd a theithio tra hefyd yn gobeithio sicrhau cyfleoedd newydd.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch bod Bwyd a Diod Cymru yn cefnogi National Geographic Traveller yn y digwyddiad eleni, sy’n llwyfan gwych i’n cynhyrchwyr bwyd a diod arddangos y diwylliant bwyd gwych sydd gennyn ni yng Nghymru.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod ansawdd bwyd a diod Cymreig gyda’r gorau yn y byd a bydd yr Ŵyl Fwyd yn bwysig i sicrhau bod hynny’n cael ei gydnabod yn iawn.”

Rock Star cheese (Snowdonia Cheese)

Ymhlith y cwmnïau Cymreig sy’n arddangos mae Caws Snowdonia, Radnor Preserves, Cradoc’s Savory Biscuits, Distyllfa Aber Falls, Velfrey Vineyard a chynllun Dynodiad Daearyddol Llywodraeth Cymru.

Un o’r cwmnïau sy’n edrych ymlaen at fynychu’r ŵyl fwyd yw Snowdonia Cheese, fel y dywed y Cyfarwyddwr Masnachol, Richard Newton-Jones, “Rydyn ni wrth ein bodd yn mynychu Gŵyl Fwyd National Geographic a chael ein hamgylchynu gan bobl o’r un anian sy’n hoff o fwyd. Byddwn yn cynnig samplau o ddetholiad o gynhyrchion gan gynnwys Rock Star, caws Cheddar cyntaf erioed Snowdonia Cheese Company i gael ei aeddfedu mewn ceudyllau llechi yng nghanol Eryri.”

Cynhyrchydd arall sy’n mynychu ac sy’n gobeithio denu cyfleoedd allforio newydd yw Allie Thomas o Cradoc’s Savory Biscuits, “Mae hwn yn ddigwyddiad mawreddog, lle bydd bwydydd a gwasanaethau o’r safon uchaf yn cael eu harddangos a bydd Cradoc’s Crackers yn ymddangos yno ymhlith y gorau o gynnyrch Cymru. Rydyn ni’n gobeithio denu cyfleoedd gyda phrynwyr ar gyfer allforio, yn ogystal â busnesau lleol gyda ffocws ar ein Hamperi Nadolig.

“Rydyn ni’n gobeithio creu argraff ar ymwelwyr gyda’n sgiliau pobi crefft o safon ac yn bwriadu rhoi tamaid i aros pryd iddyn nhw er mwyn profi ein gallu.”

Truckle Range Truffle Rock Star 2022 (Snowdonia Cheese)

Bydd gŵyl fwyd 2022 yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau, o arddangosiadau gan gogyddion enwog i gyfweliadau â phersonoliaethau bwyd blaenllaw fel Aldo Zilli, Olia Hercules, Grace Dent, Jack Stein, Jose Pizarro a Jay Rayner. Bydd profiadau coginio i ymwelwyr yn amrywio o flasu bwyd a diod i diwtorialau coginio, yn ogystal â dosbarthiadau meistr a phrofiadau trochi rhyngwladol.

Meddai Glen Mutel, golygydd Food by National Geographic Traveller (UK), “Os ydych chi’n awyddus i agor eich hun i brofiadau newydd, lle gwell na digwyddiad sy’n dod â bydoedd bwyd a theithio ynghyd. Mae’n wych gallu croesawu pawb yn ôl i’r Business Design Centre, yng nghwmni cymaint o arbenigwyr yn eu meysydd, o sommeliers a chrewyr ryseitiau i awduron bwyd a pherchnogion bwytai.

“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Bwyd a Diod Cymru yn ôl i’r Ŵyl Fwyd – ac i ddatblygu ein perthynas barhaus ymhellach. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cydweithio ar nifer o brosiectau llwyddiannus, gan gynnwys llawlyfr bwyd Cymreig arbennig sydd wedi’i gyfieithu i sawl iaith. Mae’n wych gwybod y byddan nhw unwaith eto yn dod â’u harbenigedd sylweddol i’n digwyddiad, lle rwy’n siŵr y byddan nhw’n un o’n harddangoswyr mwyaf poblogaidd.”

Mae gan Bwyd a Diod Cymru bartneriaeth barhaus gyda National Geographic Traveller ar ôl cydweithio yr hydref diwethaf i gynhyrchu llawlyfr 52 tudalen oedd yn canolbwyntio ar fwyd o Gymru. Roedd y llawlyfr yn ymdrin â phob agwedd ar arlwy bwyd Cymru, o’i ryseitiau traddodiadol a’i chynhwysion brodorol i’w bwytai â seren Michelin a thon newydd o gynhyrchwyr crefftus.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle