CANFOD TRYSOR YN SIR BENFRO

0
390
Treasure-19.18-Stackpole-Castlemartin-Community-Pembrokeshire © Amgueddfa Cymru yw hawlfraint pob delwedd.

Ar ddydd Iau 14 Gorffennaf 2022 cafodd dau ddarganfyddiad – tlws modrwyol aur canoloesol a chloch arian ôl-ganoloesol – eu datgan yn drysor gan Mr Paul Bennett, Uwch Grwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Cafodd y tlws modrwyol aur canoloesol (Achos Trysor 21.13) ei ddarganfod gan Mr O. E. Thomas wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Mathri, Sir Benfro ar 11 Ebrill 2021. Mae’r tlws wedi’i addurno â chwech gosodiad tiwbaidd neu goletau ar ffrâm grwn, mae un yn cynnwys carreg cabosión. Mae’r tlws yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif neu’r 14eg ganrif.

Dywedodd Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar Amgueddfa Cymru:

“Mae hon yn enghraifft wych o fath o dlws aur a oedd yn boblogaidd yn y 13eg a’r 14eg ganrif, gyda gemau a gwydr fel addurniadau. Diolch i’r Cynllun Henebion Cludadwy ac amodau’r Ddeddf Trysor, caiff darganfyddiadau fel hyn eu cofnodi, ac rydym yn creu darlun mwy cywir o ffasiwn y canol oesoedd yng Nghymru.”

Treasure 21.13 Mathry Community Pembrokeshire credit © Amgueddfa Cymru yw hawlfraint pob delwedd.

Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio caffael y celc ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.

Cafodd y gloch arian fechan o ddiwedd y canol oesoedd neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol (Achos Trysor 19.18) ei darganfod gan Howard Gooding a Layton Davies ym mis Gorffennaf 2019 wrth iddynt ddefnyddio datgelydd metel ar dir wedi’i aredig yng Nghymuned y Stagbwll a Chastellmartin, Sir Benfro. Mae’r gloch, a oedd unwaith yn grwn ond erbyn hyn yn fflat, yn cynnwys dau ran wedi’u sodro at ei gilydd gyda band addurnol o’i chwmpas. Mae’n debyg mai cael eu gwisgo fel addurniadau fyddai clychau fel hyn, ac maent hefyd yn cael eu cysylltu â hebogyddiaeth.

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod wedi dangos diddordeb mewn caffael y gloch ar gyfer eu casgliadau, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle