Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu gwerth mwy na £6,500 o ddodrefn newydd ar gyfer Ward Banwy Ysbyty Bronglais, sef y man dynodedig ar gyfer trin cleifion COVID-19 ar hyn o bryd.

0
202
Furniture for Y Banwy Ward picture

Mae’r dodrefn ar gyfer cleifion yn cynnwys chwe chadair cefn uchel, chwe chabinet ochr gwely y gellir eu cloi ac 18 bwrdd i’w defnyddio dros wely neu gadair.

Dywedodd y Rheolwr Nyrsio Simone Brandy: “Mae gennym ni 12 ystafell sengl ar y ward ac mae cael y dodrefn newydd yma wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion – gydag amrywiaeth o gadeiriau gwahanol i weddu i bob claf; gwell byrddau a loceri gyda mwy o le i eiddo cleifion.

“Rydym mor ddiolchgar am y rhoddion sydd wedi ei gwneud hi’n bosibl cael y cysuron ychwanegol hyn.”

Yn y llun gyda rhai o’r dodrefn newydd mae’r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Kiera Hutchinson.

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle