Gwobr fawreddog i ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberteifi am ei ddyluniad ‘Porta LAB’ arloesol

0
1473

Mae disgybl o Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi ennill gwobr fawreddog am ei ddyluniad o gynnyrch i ganfod malaria mewn ffordd fwy effeithlon a darbodus.

Enillodd Jacob Davies, sydd ym Mlwyddyn 13 yn astudio Dylunio Cynnyrch Dylunio a Thechnoleg Safon Uwch, y wobr gyffredinol yn ystod Gwobrau Dylunio Triumph y Deyrnas Unedig a gynhaliwyd ym mhencadlys Triumph yn Hinckley, Swydd Gaerlŷr ddydd Sadwrn, 02 Gorffennaf 2022.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr 16-18 oed y Deyrnas Unedig mewn pynciau STEM perthnasol (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) a heriwyd ymgeiswyr i ddylunio cynnyrch i ddatrys problem byd go iawn. Canmolwyd Jacob Davies am ei brosiect Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg, o’r enw ‘Porta LAB’, sy’n allgyrchydd gwaed cludadwy i alluogi diagnosis haws o falaria mewn ardaloedd anghysbell.

Dywedodd Jacob Davies, sy’n gobeithio astudio Cyfrifiadureg yn y Brifysgol yn y flwyddyn academaidd nesaf: “Mae’r allgyrchydd gwaed cludadwy yn ddyfais sydd wedi’i chynllunio i alluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud diagnosis o falaria yn haws ac yn rhatach mewn ardaloedd anghysbell. Mae wedi’i bweru â llaw yn gyfan gwbl, mae’n ysgafn, ac mae ganddo ffactor ffurf bach sy’n ei wneud yn rhad, yn gludadwy, ac yn golygu y gellir ei ddefnyddio heb fynediad at drydan.

“Roedd y gwobrau yn brofiad gwych. Mwynheais weld ffatri beiciau modur Triumph a gweld peirianneg a gweithgynhyrchu ym Mhrydain, ynghyd â chwrdd â’r cystadleuwyr eraill a dysgu am eu dyluniadau. Cefais fy synnu fy mod wedi ennill, gan fod llawer o’r prosiectau eraill yn drawiadol iawn.

“Rwyf wedi cael cynnig cymorth i ffeilio patent ar y cynnyrch, a gobeithio y bydd hyn yn fy helpu i fynd ymhellach a gwneud y cynnyrch yn realiti.”

Dywedodd Emyr James, Pennaeth y Gyfadran Ddylunio yn Ysgol Uwchradd Aberteifi: “Mae cynnyrch Jacob yn ddefnydd arloesol syml o rymoedd allgyrchol hunanysgogol. Yn dilyn proses ddylunio ailadroddus, gwnaeth Jacob adnabod y broblem ac yna aeth ati i ddylunio, modelu a phrofi ei ddyluniadau i’w alluogi i ddod o hyd i ganlyniad sy’n gweithio. Dangosodd feddwl arloesol rhagorol ac agwedd waith ragorol i gael ei ddyluniad i weithio. Braf oedd bod yn bresennol yn ffatri Triumph i weld Jacob yn cael ei gydnabod am ei feddwl arloesol syml ac yn cael ei gyflwyno â thlws yr enillydd cyffredinol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau mawr i Jacob Davies ar ei gamp wych. Mae arloesedd a blaengaredd mewn STEM yn hanfodol ac rydym yn hynod falch o gamp Jacob ar y llwyfan cenedlaethol. Hoffwn hefyd ddiolch i’n holl athrawon gwych sy’n sicrhau bod ein disgyblion yn cael cyfleoedd gwych i ddatblygu ac archwilio’r pynciau hyn.”

Gwnaeth peirianwyr dylunio o Triumph Motorcycles roi 21 ymgeisydd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ar restr fer i arddangos eu gwaith yn ystod y rownd derfynol. Denodd y gystadleuaeth amrywiaeth enfawr o syniadau arloesol. Roedd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth mewn 6 maes allweddol: Peirianneg, Arloesedd, Cyfrifoldeb Corfforaethol, Cyfathrebu, Dylunio Gweledol ac Ymwybyddiaeth Fasnachol.

Ceir mwy o wybodaeth am Wobrau Triumph ar eu gwefan: https://triumphdesignawards.co.uk/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle