Gweithredu diwydiannol i effeithio ar wasanaethau ar 27ain a 30ain Gorffennaf

0
160
Cardiff Central-07

Cynghorir cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) i gynllunio eu teithiau’n ofalus yr wythnos nesaf gan y bydd gwasanaethau’n cael eu tarfu gan ddau ddiwrnod o weithredu diwydiannol cenedlaethol.

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y cynhelir streic ddydd Mercher 27 Gorffennaf, ac mae ASLEF, yr undeb gyrwyr trenau, wedi cyhoeddi y bydd eu haelodau hwy’n mynd ar streic ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf.

Er nad yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r naill anghydfod na’r llall, bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar ei wasanaethau, yn enwedig ar 27 Gorffennaf, pan fydd y rhan fwyaf o’r gwasanaethau ar rwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal.

Dydd Mercher 27 Gorffennaf

Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal o ganlyniad i’r anghydfod rhwng RMT a Network Rail, sy’n golygu na fydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu gweithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail. 

Trosolwg o wasanaethau TrC:

Gwasanaethau yng Nghymru a thros y ffin

  • Yr unig wasanaethau fydd yn gweithredu fydd gwasanaeth gwennol o Gaerdydd i Gasnewydd, lle bydd un trên yn rhedeg pob awr i bob cyfeiriad, rhwng 07:30 a 18:30 awr.
  • Yn anffodus, ni fydd modd rhedeg unrhyw wasanaeth eraill.

Llinellau Craidd y Cymoedd

  • Bydd gwasanaethau trên yn gweithredu rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful ar ffurf gwasanaeth pob awr i bob cyfeiriad rhwng 07:30 a 18:30 awr.
  • Bydd trenau’n gallu rhedeg rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful cyn 07:30 o’r gloch ac ar ôl 18:30 o’r gloch (ac yna hyd at 20:30 awr oherwydd gwaith peirianyddol). Bydd trafnidiaeth ar y ffordd yn galluogi cwsmeriaid i deithio rhwng Caerdydd Canolog a Radur i bob cyfeiriad y tu allan i’r oriau hyn.
  • Fodd bynnag, pwysig yw nodi y bydd y capasiti ar y trafnidiaeth ffordd yn hynod gyfyngedig.
  • Cynghorir cwsmeriaid i ddisgwyl y bydd yr holl wasanaethau rheilffordd a ffordd yn hynod o brysur gan na fydd y gwasanaethau’n rhedeg mor aml.

Noder: Mae hyn yn wahanol i’r tridiau o weithredu diwydiannol ym mis Mehefin, lle roedd y gwasanaethau rheilffordd yn dechrau/gorffen yn Radur.

Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol.

Dydd Iau, 28ain Gorffennaf

Oherwydd patrymau sifft signalwyr Network Rail a’r heriau sylweddol o ran symud trenau a chriw i weithredu rhwng diwrnodau streic mae’n debygol y bydd tarfu.

Anogir cwsmeriaid i wirio cyn teithio. Bydd cynllunwyr teithio ar-lein yn cael eu diweddaru rhwng dau a phedwar diwrnod cyn diwrnod cyntaf y streic.  Dyma drosolwg:

Gwasanaethau yng Nghymru a thros y ffin

Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 o’r gloch ar gyfer y gwasanaethau yng Nghymru na thros y ffin.  Mae gwasanaethau’n debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cyntaf y dydd.

Llinellau Craidd y Cymoedd

Bydd pob un o’r gwasanaethau cyntaf y dydd fydd yn gadael Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful yn cael eu hamseru fel eu bod yn cyrraedd Radur ar ôl 07:00 o’r gloch.  Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 o’r gloch ar unrhyw lein ac eithrio rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful – Radur.

Ni fydd unrhyw wasanaethau trafnidiaeth ffordd a gynlluniwyd ymlaen llaw ar waith cyn 18:30 awr ar Linellau Craidd y Cymoedd.

Mae gwasanaethau’n debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cyntaf y dydd.

Sadwrn 30ain Gorffennaf

  • Bydd TrC yn rhedeg amserlen lawn ond mae gwasanaethau’n debygol o gael eu heffeithio gan weithredu diwydiannol cwmnïau trenau eraill. Gall hyn arwain at orfod canslo a gwneud newidiadau i wasanaethau ar fyr rybudd.
  • Mae disgwyl i wasanaethau rhwng Abertawe – Casnewydd fod yn brysur iawn oherwydd amserlen gyfyngedig Great Western Railway. Cynghorir teithwyr i beidio â theithio oni bai bod angen.
  • Mae disgwyl y bydd gwasanaethau TrC rhwng Amwythig – Birmingham yn brysur iawn gan fod y cynhelir Gemau’r Gymanwlad bryd hynny ac ni fydd West Midlands Trains yn rhedeg unrhyw wasanaeth. Cynghorir teithwyr i beidio â theithio oni bai bod angen.

Tocynnau cyfredol

Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau cyfredol nad ydynt yn docyn tymor sy’n ddilys ar gyfer teithio ddydd Mercher 27 Gorffennaf a dydd Sadwrn 30 Gorffennaf ddefnyddio’r tocynnau hynny unrhyw bryd rhwng dydd Mawrth 26ain Gorffennaf a dydd Mawrth 2 Awst.  Anogir cwsmeriaid i osgoi teithio ar ddydd Gwener 29 Gorffennaf a dydd Sul 31 Gorffennaf gan y bydd disgwyl i wasanaethau fod yn hynod o brysur.

Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn, heb unrhyw ffi weinyddol.  Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy’r broses Ad-daliad am Oedi (Delay Repay).

Yn y cyfamser, rydym yn atal gwerthu tocynnau Ymlaen Llaw ar gyfer dyddiadau’r gweithredu diwydiannol er mwyn lleihau nifer y bobl yr effeithir arnynt.  Rydym yn cynghori cwsmeriaid i ymweld â gwefannau TrC neu Traveline, a gwefannau gweithredwyr eraill, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle