“AMHEUAETH O DDIFRIF AM GRAFFU CYMREIG” YMCHWILIAD COVID Y DU WEDI CYHOEDDI

0
223
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

“Dydi Cymru ddim yn cael ei chraffu’n llawn – rhowch ymchwiliad Cofid penodol i ni fel y gwnaethoch ei addo” – Rhun ap Iorwerth AS yn ysgrifennu at Prif Weinidog

Yn dilyn lansiad swyddogol yr Ymchwiliad Covid-19 y DU ar 21 Gorffennaf 2022, mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn mynegi’r “nifer o glychau larwm” yn dilyn datganiad agoriadol y Cadeirydd.

Mae Mr ap Iorwerth wedi mynegi pryder ynghylch diffyg persbectif penodol i Gymru i fodiwlau 1 a 3, a’r “oedi” i’r elfen Gymreig o Fodiwl 2.

Ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd Ymchwiliad Covid-19 y DU dri modiwl o’r ymchwiliad, fydd yn archwilio:

·       Modiwl 1: gwytnwch a pharodrwydd y DU;

·       Modiwl 2: llywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a gwneud penderfyniadau (DU):

o   Modiwl 2A: Yr Alban

o   Modiwl 2B: Cymru

o   Modiwl 2C: Gogledd Iwerddon

·       Modiwl 3: effaith Covid-19 ar systemau gofal iechyd, cleifion, staff ac ysbytai.

Yn y gorffennol mae’r Prif Weinidog wedi datgan ei ddisgwyliad i’r ymchwiliad roi’r darlun “gorau y gall o brofiad teuluoedd, cleifion, staff yma yng Nghymru yn ystod y pandemig”. Ond does gan fodiwl 3, sy’n archwilio’r effaith i gleifion a staff ddim elfen benodol Gymreig iddo.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

“Fe wnaeth y datganiad agoriadol gan Gadeirydd Ymchwiliad y DU achosi cryn dipyn o gonsyrn ac rwy’n gofyn am eglurhad gan y Prif Weinidog ar ddau bwynt pwysig.

“Rwyf am wybod pam nad oes safbwynt Cymreig penodol i bob un o’r tri modiwl ymchwiliad a pham ei bod yn ymddangos bod oedi cyn codi cwestiynau penodol ynglŷâ Chymru mewn perthynas â‘r ail fodiwl.

“Dylid craffu ar benderfyniadau sydd wedi’u gwneud yng Nghymru yng Nghymru, ond o ystyried y cwmpas cul a amlinellir yn natganiad agoriadol Cadeirydd y DU – pan mai dim ond un modiwl allan o dri fydd â ffocws Cymreig – mae amheuaeth o ddifrif am hyn.

Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi mynnu os na fydd Cymru’n cael ei harchwilio’n llawn, yna bydd angen i ni gael ymchwiliad penodol i Gymru. Byddwn i a’r miloedd o deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru sydd am gael atebion yn fawr at ei ymateb.  Ac mae’n rhaid i ni gael atebion.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle