Helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin

0
250

GOFYNNIR i drigolion am eu barn i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r trydydd sector yn cynnwys amrywiaeth o wahanol sefydliadau, megis elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol, sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i ystod eang o drigolion, gan helpu i wella iechyd a llesiant pobl.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych ar newid y ffordd y mae’n comisiynu gwasanaethau’r trydydd sector i’w gwneud yn symlach ac yn haws i drigolion gael mynediad iddynt, ac i wella ansawdd y cymorth a’r gweithgareddau a ddarperir drwy ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl leol.

Mae’r newidiadau y bu’n rhaid eu gwneud o ganlyniad i bandemig COVID-19 yn cael eu hystyried yn gyfle i adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd wedi’i wneud ac i nodi pa wasanaethau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal i gael barn pobl i helpu i gynllunio a darparu model gwasanaeth cymunedol newydd a fydd yn diwallu anghenion cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, sef yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae gan y cyngor berthynas hirsefydlog a gwerthfawr â’r trydydd sector sy’n chwarae rôl bwysig wrth helpu i wella llesiant pobl.

“Mae ein trafodaethau wedi amlygu bod cyfoeth o wybodaeth, profiad a sgiliau mewn sefydliadau, yn enwedig mewn perthynas â phrofiad byw defnyddwyr gwasanaeth a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio i ddarparu gwasanaethau modern o safon uchel sy’n diwallu anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

“Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i nodi pa wasanaethau sydd eu hangen yn y dyfodol a ble a sut y byddai pobl yn hoffi cael mynediad iddyn nhw.”

Ewch i’r tudalennau ymgyngoriadau ar wefan y cyngor cyn 26 Awst i ddweud eich dweud. Mae copïau papur hefyd ar gael gan ganolfannau gwasanaethau cwsmeriaid Hwb y Cyngor yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman, ac mae nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn ystod yr haf i ymgysylltu’n uniongyrchol â thrigolion. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i sirgar.llyw.cymru/ymgyngoriadau


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle