Mae Plaid Cymru wedi ymateb i adroddiad damniol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal:
“Dyma wythnos arall ac adroddiad damniol arall, a mwy o bryderon am ddiogelwch cleifion. Pryd fydd hyn yn dod i ben?
“Mae’r adroddiad hwn eto’n sôn am gleifion yn cael eu rhoi mewn perygl a staff yn ‘gweithio y tu hwnt i’r amser mewn amodau heriol’. Nid oes gennyf lawer o ffydd yn ‘ymyriadau wedi’u targedu’ Llywodraeth Cymru, ac unwaith eto rwy’n galw ar y Gweinidog Iechyd i edrych ar sut y gallai dechrau eto gyda strwythurau iechyd newydd yn y gogledd ddarparu’r dechrau newydd sydd ei angen ar gleifion a staff.
“Nid oherwydd fy mod i eisiau ad-drefnu iechyd yn arbennig, ond fy mod yn meddwl nad oes gennym lawer o ddewis.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle