Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2021/22

0
267

Dengys y ffigurau a ryddhawyd heddiw gyfanswm gwariant a ariannwyd gan grant o £697 miliwn wedi’i rannu fel â ganlyn:

  • £346 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer darparu gwasanaethau teithwyr rheilffordd.  Roedd hyn yn cynnwys £288 miliwn ar gyfer darparu gwasanaethau rheilffordd.
  • £351 miliwn o gyllid cyfalaf gan gynnwys £108 miliwn ar gyfer darparu gwasanaethau rheilffordd i deithwyr, gan gynnwys cerbydau newydd a gwelliannau i ddepo a gorsafoedd, a £167 miliwn ar gyfer y gwaith dylunio ac adeiladu i drawsnewid asedau Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) (net o £8 miliwn o gyllid ERDF).

Fel sefydliad nid-er-elw, mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru gan ganolbwyntio ar greu rhwydwaith cydgysylltiedig lle mae tocynnau integredig a gwasanaethau dibynadwy yn ei gwneud yr opsiwn hawsaf i bobl deithio ar hyd a lled Cymru. 

Dywedodd Scott Waddington, Cadeirydd TrC: “Roedd 2021/22 yn flwyddyn arall o newid sylweddol i Trafnidiaeth Cymru wrth i’r pandemig coronafeirws barhau i brofi ein cydnerthedd a herio ein ffordd o feddwl.  Fodd bynnag, rydym wedi parhau i gydweithio’n agos â’n rhanddeiliaid i gyflawni ein hymrwymiad ar y cyd i drawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru.

“Ein nod yw gwneud trafnidiaeth yng Nghymru yn wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol ac rydym wedi symud ymlaen gyda hwy eleni a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.”

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr TrC: “Rydym yn creu rhwydwaith cynaliadwy a fydd yn helpu pobl Cymru i ymateb i’r newid yn yr hinsawdd tra’n adeiladu sefydliad sy’n addas ar gyfer y dyfodol.  Mae rhai patrymau teithio eisoes yn newid ond mae angen i Gymru weld newid cynaliadwy a pharhaus yn y ffordd rydym yn teithio.  Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad parhaus yn nhwf ein darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus gyda gwasanaethau a seilwaith carbon isel sy’n helpu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

“Mae ein cyflawniadau eleni gyda datblygiad parhaus Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL), integreiddio TrawsCymru, caffael PTI Cymru, buddsoddi mewn system tocynnau aml-ddull a chyflwyno’r gwasanaeth fflecsi oll yn gamau pwysig tuag at gyflawni’r nod hwn.  Fe wnaethom hefyd weinyddu grantiau Teithio Llesol gwerth £49 miliwn i awdurdodau lleol, rhan gynyddol bwysig o annog mwy o bobl i gerdded a beicio.

“Rydym yn gwneud teithio’n haws, gan drawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth gyda gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel.  Mae ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn a hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr am bopeth y maent wedi’i wneud hyd yn hyn.”

https://newyddion.trc.cymru/newyddion/trafnidiaeth-cymru-yn-cyhoeddi-ei-adroddiad-blynyddol-ar-gyfer-202122


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle