Mae gwasanaeth sy’n cynnig triniaeth ar gyfer ystod o fân gyflyrau heb apwyntiad ar gael mewn fferyllfeydd cymunedol.
Mae’r gwasanaeth Brysbennu a Thrin ar gael i drigolion ac ymwelwyr mewn fferyllfeydd dethol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Gall Brysbennu a Thrin eich helpu os oes gennych anaf lefel isel yn hytrach na gorfod ymweld â meddyg neu adran damweiniau ac achosion brys. Darperir y gwasanaeth gan fferyllydd neu aelod o’r tîm fferyllol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
- Y mathau o anafiadau y gellir eu trin o dan y cynllun yw:
- Mân sgrafelliadau, toriadau arwynebol a chlwyfau
- Pigiadau a brathiadau (fel gwenyn neu slefrod môr)
- Straen
- Cwynion llygaid fel tywod yn y llygad
- Tynnu eitemau o’r croen fel splinter neu gragen
- Mân losgiadau gan gynnwys llosg haul
Pan fo mân ddamweiniau ac anafiadau yn digwydd, mae Brysbennu a Thrin ar gael, heb fod angen apwyntiad.
Pan gyrhaeddwch y fferyllfa:
- Gofynnir i’ch cytundeb (caniatâd) i gael ei archwilio
- Asesu eich cyflwr
- Cael eich trin neu eich cynghori ynghylch ble y dylech fynd am eich triniaeth
Bydd eich meddyg teulu yn cael gwybod am unrhyw driniaeth a roddir a gofynnir i chi hefyd roi gwybod i ni am eich barn am y gwasanaeth.
Byddwch yn ymwybodol bod Brysbennu a Thrin yn cael ei ddarparu am ddim trwy’r GIG ond bydd angen i chi dalu am unrhyw ôl-ofal y bydd ei angen arnoch chi, fel lleddfu poen dros y cownter.
Am fwy o wybodaeth gwyliwch ein hanimeiddiad yma:
https://www.youtube.com/watch?v=XLu8JXrx0wQ
ac i ddarganfod pa fferyllfeydd sy’n cymryd rhan yn y cynllun, ewch i:https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/pharmacy/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle