Taith gerdded bywyd gwyllt i gefnogwyr Ymddiriedolaeth y Parc Cenedlaethol

0
251
Capsiwn: Cefnogwyr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dysgu am bwysigrwydd dolydd mewn digwyddiad arbennig i gefnogwyr yn nôl Skrinkle.

Cafodd cefnogwyr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro weld bywyd gwyllt anhygoel yn ystod taith gerdded dywysedig drwy ddôl Skrinkle yn ddiweddar.

Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn ystod tywydd godidog yr haf, fel ffordd o ddiolch i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth a thynnu sylw at bwysigrwydd dolydd ac ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd yr Ymddiriedolaeth.

Mae ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2019, ac mae’n ceisio gwrthdroi’r dirywiad cenedlaethol dramatig mewn dolydd blodau gwyllt dros y 75 mlynedd diwethaf. Hyd yma, mae wedi codi digon o arian i gynnal 13 o ddolydd dros gyfanswm o 132 hectar, a darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer pryfed peillio a bywyd gwyllt arall.

Capsiwn: Cefnogwyr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dysgu am bwysigrwydd dolydd mewn digwyddiad arbennig i gefnogwyr yn nôl Skrinkle.

Dywedodd Jessica Morgan, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Roedd y digwyddiad Cerdded a Siarad yn Skrinkle yn gyfle gwych i arddangos canlyniadau lliwgar adfer y ddôl, a diolchwn i Libby Taylor, Rheolwr Gwasanaeth ParcmynAwdurdod y Parc Cenedlaethola gyfrannodd ei harbenigedd a chreu digwyddiad hynod o bleserus. Mae Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi gweithio am flynyddoedd i wella bioamrywiaeth yn nôl Skrinkle, ac mae hadau o’r ddôl wedi cael eu defnyddio i greu dolydd blodau gwyllt eraill yn y Parc.

“Ar yr achlysur hwn, roedd bwrnedau chwe smotyn yn dwyn yr holl sylw, ond yn y gorffennol mae dôl Skrinkle wedi darparu rhai o’r arddangosfeydd tegeiriau gorau a’r amrywiaeth gyfoethocaf o flodau gwyllt yn y sir.”

Capsiwn: Cefnogwyr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dysgu am bwysigrwydd dolydd mewn digwyddiad arbennig i gefnogwyr yn nôl Skrinkle.

Roedd thema adfywio’r ddôl o ddiddordeb arbennig i lawer o’r rhai a oedd yn bresennol, sydd naill ai â dolydd eu hunain, neu sy’n ystyried sefydlu rhai newydd.

I ddysgu am waith Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a digwyddiadau arbennig i gefnogwyr, cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle