Llys-y-frân yn gweithio gyda Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymruam brosiect bioamrywiaeth dolydd bywyd gwyllt

0
285
Green-Hay-Day-17th-Aug-2022-Rangers-unloading-hay

Cynhaliodd Llys-y-frân ei achlysur taenu ‘gwair gwyrdd’ cyntaf yr wythnos ddiwethaf. Cafodd y gwair gwyrdd o ddolydd blodau gwyllt Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru ei daenu dros ddolydd Llys-y-frân er mwyn gwella bioamrywiaeth y dolydd blodau gwyllt sydd ar dwf ar y safle. Roedd hi’n hanfodol bod y gwair yn cael ei ladd a’i daenu’r un diwrnod er mwyn sicrhau bod yr hadau’n trosglwyddo’n llwyddiannus. Bydd hyn yn gwella bioamrywiaeth yn yr ardaloedd dolydd blodau gwyllt sy’n datblygu yn Llys-y-frân.

Bu gwirfoddolwyr o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro’n gweithio gyda gofalwyr Llys-y-frân a’r tîm bioamrywiaeth i helpu i daenu’r gwair gwyrdd. Nod y prosiect yw cynyddu’r rhywogaethau brodorol yn nolydd Llys-y-frân. Caiff y ddôl ei harolygu’r tymor nesaf, a chaiff y gwair a dorrir o’r ddol yma ei daenu dros un arall y flwyddyn nesaf. Dyma’r prosiect cyntaf i gael ei gyflawni gyda gwirfoddolwyr yn Llys-y-frân ers i’r safle ailagor i’r cyhoedd yn 2021.  Y bwriad yw ffurfio grŵp Cyfeillion a chydweithio’n agosach â chymunedau lleol i wella ein seilwaith gwyrdd a hybu llesiant.

Green Hay Day 17th Aug 2022 – Nick and Katie

Cafodd y prosiect ei ariannu a’i gydlynu gan Dîm Bioamrywiaeth Dŵr Cymru Welsh Water yn rhan o ymrwymiad Dŵr Cymru Welsh Water i gyfoethogi ecoleg yn ei strategaeth Bioamrywiaeth.

Mae’r prosiect yn dangos hefyd sut mae Dŵr Cymru Welsh Water yn rheoli ei seilwaith gwyrdd er mwyn sicrhau ei fod yn cynorthwyo bioamrywiaeth ac ecoleg ehangach Cymru, gan gynnwys ansawdd dŵr ac amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Green Hay Day 17th Aug 2022 – spreading the hay

Dywedodd Gemma WIlliams, Ymgynghorydd Bioamrywiaeth ac Ecoleg DCWW, “Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n chwarae ein rhan wrth gynnal a gwella iechyd ein hamgylchedd.  Yn ogystal â chyfoethogi bioamrywiaeth a’r amgylchedd, mae prosiectau fel hyn yn ein helpu ni i ddefnyddio safleoedd ein hatyniadau ymwelwyr fel hybiau ar gyfer llesiant, ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at y cymunedau a wasanaethwn.  Roedd hi’n bleser mawr cael gweithio ochr yn ochr â’r gwirfoddolwyr a chael siarad â nhw am gyfraniad pwysig a gwerthfawr gwirfoddolwyr at ein cymunedau.”

Green-Hay-Day-17th-Aug-2022-Nick-and-Katie-

Mae Llys-y-frân yn cynnig gweithgareddau ar dir sych ac ar y dŵr, gan ddarparu cyfleoedd bendigedig o ran llesiant. Mae’r dewis yn cynnwys chwaraeon rhwyfo, nofio dŵr agored, saethyddiaeth, dringo, taflu bwyeill a cheir bach pob tir y Crazi-Bugz. Gyda chwe llwybr cerdded pwrpasol a llwybrau beicio mynydd i’w defnyddio am ddim, mae yna gyfleoedd i fynd allan a mwynhau cefn gwlad Sir Benfro heb orwario. Cewch barcio am ddiwrnod cyfan am gwta £3 y dydd, ac mae’r awr gyntaf am ddim. Dewch â phicnic a mwynhewch y golygfeydd bendigedig dros y llyn, neu ewch draw i gaffi’r ganolfan ymwelwyr am fyrbryd neu ginio.

Llys-y-frân website


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle