Cigyddion o Gymru’n barod i herio’r byd ar ôl hyfforddiant dwys

0
350
Landscape): Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru (o’r chwith): Tom Jones, Liam Lewis, Matthew Edwards, Peter Rushforth, Ben Roberts, Dan Raftery a Craig Holly.

Mae tîm o gigyddion crefftus yn barod i gynrychioli Cymru â balchder ar ôl cyfnod o hyfforddiant dwys i’w paratoi ar gyfer Her Cigyddion y Byd yn yr Unol Daleithiau ar 2 a 3 Medi.

Dyna farn cydlynydd Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru, Chris Jones, a fydd yn un o’r beirniaid yn yr ornest fyd-eang pan ddaw 13 o wledydd benben yn Sacramento, Califfornia.

Dyma’r tro cyntaf i dîm Cymru, sy’n hedfan i Sacramento ar 30 Awst, gystadlu yn Her Cigyddion y Byd. Eu cefndryd Celtaidd o Iwerddon oedd y pencampwyr y tro diwethaf.

Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi olaf y tîm ddydd Sul, pryd yr oedd Mr Jones, pennaeth uned busnes bwyd a diod Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn gwisgo’i het fel beirniad i fwrw llygad barcud dros waith y cigyddion.

“Mae’r tîm wedi gwella’n fawr dros y chwe wythnos ddiwethaf o ran bod yn drefnus, yn ddisgybledig ac yn gyflym,” meddai. “Maen nhw wedi bod yn ymarfer bob dydd Sul ers chwe wythnos ac mae eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed. Maen nhw wedi newid gêr ac maen nhw’n llawn cyffro ac yn barod i fynd.

“Alla i ddim canmol digon ar y cigyddion am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd. Maen nhw’n gweithio’n ardderchog fel tîm a dim ond ychydig o’r gwledydd sydd, fel ni, â’r un aelodau yn y tîm ers dechrau’r broses.

“Rydyn ni’n lwcus iawn hefyd o gael cefnogaeth wych gan ein noddwyr ac eraill.”

Ffurfiwyd Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru yn 2020 ac mae’n rhan o Gymdeithas Goginio Cymru. Mae’r rheolwr, Steve Vaughan o Ben-y-ffordd, ger Wrecsam, yn gigydd wedi ymddeol sy’n feirniad profiadol.

Aelodau’r tîm yw Peter Rushforth o Innovative Food Ingredients, Lytham St Annes, y capten; Craig Holly, o Chris Hayman Butchers, Maesycwmer, Hengoed; Tom Jones o Jones Brothers, Wrecsam; Matthew Edwards, darlithydd yng Ngholeg Cambria, Cei Connah; Dan Raftery o Meat Masters Butchers, y Drenewydd; Liam Lewis o Hawarden Farm Shop a Ben Roberts o M. E. Evans Butchers, Owrtyn.

Noddwyr y tîm yw Bwyd a Diod Cymru, yr adran yn Llywodraeth Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod, Atlantic Service Company o Gasnewydd, Kepak o Ferthyr Tudful, AIMS (Association of Independent Meat Suppliers), Hybu Cig Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Innovative Food Ingredients, M. E. Evans Butchers, Dick Knives a Tiny Rebel.

Bydd Huw James o Atlantic Service Company yn mynd i’r gystadleuaeth gyda chigyddion Cymru.

Gan fod cigyddion o bedwar ban byd yn ymgiprys am gael bod yn bencampwyr, gelwir y gystadleuaeth yn ‘Gemau Olympaidd y Cig’. 

(Portrait): Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru (rhes gefn o’r chwith) Ben Roberts a Dan Raftery, (rhes ganol) Matthew Edwards a Craig Holly, (rhes flaen) Tom Jones, Peter Rushforth a Liam Lewis.

 

Cynhelir yr ornest dros dair awr a chwarter, gyda’r timau’n cael ystlys cig eidion, ystlys porc, oen cyfan a phum ffowlyn i’w trawsnewid yn arddangosfa o gynnyrch gwerth ychwanegol ar thema benodol.

Caiff y timau ddod â’u sesnin, eu sbeisys, eu marinadau a’u garneisiau gyda nhw wrth greu cynnyrch a fydd yn ysbrydoli ac yn gwthio’r ffiniau ond a fydd yn hwylus i’w coginio ac yn debygol o werthu.

Mae’r beirniaid annibynnol yn rhoi sgôr i bob tîm wedi’i seilio ar dechneg a chrefft, crefftwaith, dyfeisgarwch, gorffeniad cyffredinol a chyflwyniad.

Bydd Ben Roberts yn cynrychioli Cymru yng ngornest Pencampwr y Byd ar gyfer Prentisiaid Cigyddion ar 2 Medi. Yn yr ornest honno, a seilir ar Her Cigyddion y Byd, dim ond dwy awr a chwarter sydd gan brentisiaid cigyddion i drefnu nifer o ddarnau sylfaenol o gig yn arddangosfa o gynhyrchion a bennwyd ymlaen llaw a’u creadigaethau nhw eu hunain. 

“Mae’n brofiad hollol newydd i’n cigyddion ni oherwydd hon fydd eu cystadleuaeth gyntaf fel tîm a does dim cystadleuaeth fwy na Her Cigyddion y Byd,” meddai Mr Jones.

“Maen nhw i gyd yn falch o gael cynrychioli Cymru ac fe wnawn ein gorau glas i chwifio baner Cymru mewn steil. Mae’r gystadleuaeth yn fwy o lawer eleni nag o’r blaen, felly nid Cymru fydd yr unig wlad i gystadlu am y tro cyntaf.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle