Cadarnhau achos o Ffliw Adar ar safle yn Sir Benfro

0
218

Mae Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 mewn dofednod ar safle mawr yn Sir Benfro.

Dyma’r ail achos o ffliw adar sydd wedi ei gadarnhau yng Nghymru yr wythnos hon.

Mae Parth Gwarchod 3 cilomedr a Pharth Goruchwylio 10 cilomedr wedi’u datgan o amgylch yr adeilad heintiedig, i gyfyngu ar y risg o ledaenu’r clefyd.

O fewn y parthau hyn, cyfyngir ar symudiadau adar a chynulliadau ac mae’n rhaid datgan pob daliad sy’n cadw adar. Mae’r mesurau’n llymach yn y Parth Gwarchod 3km. Gwybodaeth lawn ar gael yma.

Mae’n hanfodol bod ceidwaid adar yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf un o fioddiogelwch yn eu lle.

Mae asiantaethau iechyd y DU yn cynghori bod y risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws yn isel iawn ac yn ôl asiantaethau safonau bwyd y DU, mae ffliw’r adar yn peri risg isel iawn i ddefnyddwyr y DU o ran diogelwch bwyd.

Mae map rhyngweithiol o barthau rheoli clefydau ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws Prydain i’w weld yma.

Dyma gyfrifoldebau pobl sy’n cadw adar:

  • Dylai pob ceidwad o adar sy’n cael eu cadw fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r clefyd fel mwy o farwolaethau, gofid resbiradol a gostyngiad o ran y bwyd neu ddŵr sy’n cael ei fwyta neu ei yfed, neu leihad yn nifer yr wyau a gaiff eu dodwy.
  • Ymgynghorwch â’ch milfeddyg yn y lle cyntaf os yw eich adar yn sâl.
  • Os ydych chi neu’ch milfeddyg yn amau y gallai ffliw adar fod yn achosi salwch yn eich adar, rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, roi gwybod am hyn i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Bydd hyn yn sbarduno ymchwiliad clefyd gan filfeddygon APHA.
  • Rhaid i chi ddefnyddio mesurau bioddiogelwch llym i atal unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, porthiant neu sarn a allai fod wedi’u halogi gan adar gwyllt sy’n dod i’ch safle. Mae manylion llawn a rhestr wirio ar gael yma: Bioddiogelwch ac atal afiechyd mewn adar caeth | LLYW.CYMRU

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle