Buddsoddwch yn eich dyfodol trwy brentisiaeth gofal iechyd

0
161
Ysbyty Glangwili General Hospital, Carmarthen Credit: Hywel Dda Health Board

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi agor ei rownd nesaf o leoedd Academi Prentisiaid ac yn annog pobl sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa ym maes gofal iechyd i gysylltu.

Mae’r cynllun, sy’n agored i geisiadau ar hyn o bryd, yn helpu unigolion nad ydynt efallai wedi dilyn llwybrau mwy traddodiadol, i yrfa fel nyrs gofrestredig. Mae’n rhoi cyfle i bobl ennill cyflog wrth ddysgu, yma yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Gall unrhyw un dros 16 oed i wneud cais ar gyfer y brentisiaeth (manylion isod).
 

Mae’r bwrdd iechyd wedi cynhyrchu fideo byr (ar gael yma (agor yn ddolen newydd) lle mae rhai o’n prentisiaid mwyaf newydd yn sôn am gael eu derbyn i’r rhaglen. 

Mae’r cynllun o fudd sylweddol i’r gymuned leol, gan ei fod yn cefnogi’r nod o ddarparu gofal tosturiol i bobl leol ar adeg pan fo heriau mawr wrth recriwtio i swyddi clinigol o fewn y GIG.
 

Mae Lisa Gostling, Cyfarwyddwr Y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol BIP Hywel Dda yn egluro: “Hyd yn hyn, mae ein rhaglen brentisiaeth wedi gweld ymgeiswyr o ystod o oedrannau a meysydd a’n gobaith yw gweld yr un peth yn y rownd nesaf o recriwtio. Mae mor bwysig ein bod yn bachu’r sgiliau sy’n bodoli yn ein cymuned i dyfu ein gweithlu yn y dyfodol.
 

“Mae’r rhaglen strwythuredig yn helpu pobl i ennill y sgiliau a’r cymwysterau gofynnol a hynny wrth weithio, ac mae’n cynnig amrywiaeth o brofiadau dysgu o ddydd i ddydd.  

“Mae’r rhaglen hon yn un o’r camau allweddol yr ydym yn eu cymrys i ddatblygu ein gweithlu yn BIP Hywel Dda ac mae’n adlewyrchu ein strategaeth a’n gweledigaeth i greu canolbarth a gorllewin Cymru iachach.”
 

Yn y rownd recriwtio hon, mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu lleoli hyd at 40 prentis gofal iechyd ar draws Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd. 
 

Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu diwrnod asesu a diwrnod adborth ym mis Hydref/Tachwedd 2022, lle bydd cyfle i gwrdd a chyfarwyddo ac i gael mwy o wybodaeth am y rhaglen. Wedi iddynt gael eu recriwtio’n llwyddiannus, bydd ymgeiswyr yn dechrau are u cyflogaeth fel prentisiaid gofal iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Ionawr 2023. Bydd y rhai hynny nad ydynt yn llwyddiannus y tro hwn yn cael cynnig cymorth gan y bwrdd iechyd, colegau lleol, Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith. 

I wneud cais ewch i dudalennau Gweithio i Ni (yn agor mewn tab newydd) ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (yn agor mewn tab newydd). Dyma’r dyddiadau cau:  

  • 24 Medi – Ysbyty Llwynhelyg  
  • 26 Medi – Ysbyty Bronglais 
  • 2 Hydref – Ysbyty Tywysog Philip 
  • 4 Hydref – Ysbyty Glangwili 

Yn ystod y rhaglen, bydd prentisiaid yn ymgymryd â hyfforddiant cymorth gofal iechyd clinigol, cyn symud ymlaen i brifysgol i gwblhau gradd nyrsio gofrestredig yn rhan-amser. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y cyfranogwyr yn nyrsys cymwys, heb orfod talu unrhyw ffi prifysgol. Disgwylir iddynt barhau mewn cyflogaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am o leiaf dwy flynedd ar ôl cymhwyso. 

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn cynnal rhaglenni prentisiaeth eraill, megis gwybodeg, llywodraethu, y gweithlu, profiad y claf a pheirianneg. Dilynwch SwyddiHywelDdaJobs ar Facebook neu Twitter am fwy o wybodaeth wrth inni lansio cynlluniau. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle