Rhoddodd Cyngor Sir Caerfyrddin werth £4,350 mewn hysbysiadau cosb benodedig yn ymwneud â thipio anghyfreithlon yn ystod mis diwethaf.
Rhoddwyd 17 o hysbysiadau cosb benodedig o ganlyniad i luniau teledu cylch cyfyng yng nghyfleuster ailgylchu Carwe, gan arwain at gyfanswm o £2,675 mewn dirwyon.
Mae hyn yn cynnwys:
• Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i fenyw o Garwe am ollwng bag
• Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 i ddyn o Garwe am ollwng bagiau sbwriel du, bagiau ailgylchu glas a photiau o baent ar y safle ar sawl achlysur gwahanol
• Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i fenyw o Garwe am ollwng bag
• Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 i un o drigolion Carwe am ollwng bagiau ailgylchu glas ac eitemau eraill
Mae hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd mewn lleoliadau eraill yn y sir yn cynnwys:
• Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i fenyw am ollwng bag sbwriel du yng nghyfleuster ailgylchu Rhos-goch.
• Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i un o drigolion Gorseinon a oedd wedi methu yn ei ddyletswydd gofal pan gafodd ei wastraff cartref ei waredu gan berson nad oedd yn gludwr gwastraff cofrestredig.
• Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i un o drigolion Llanelli am dipio anghyfreithlon ar ôl iddo gael ei adnabod drwy luniau teledu cylch cyfyng a ddarparwyd gan aelod o’r cyhoedd. Gwelwyd y dyn yn gyrru ar hyd y lôn gefn rhwng Stryd Iago a Heol Abertawe yn Llanelli a gwelwyd ef yn taflu bag ailgylchu glas o’i gerbyd a oedd yn symud i’r lôn.
• Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 i un o drigolion Llanelli a oedd wedi methu yn ei ddyletswydd gofal ar ôl i’w wastraff cartref gael ei ddarganfod mewn llain/perth wedi gordyfu yn lôn gefn ei stryd. Honnodd y preswylydd ei fod wedi talu dyn i gael gwared ar ei wastraff ond methodd â rhoi ei fanylion.
• Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 i fusnes yn Llanelli am fethu â chyflwyno nodiadau trosglwyddo gwastraff ar ôl i wastraff a gynhyrchwyd gan y busnes gael ei ddarganfod wedi’i waredu’n anghyfreithlon yn Nyffryn y Swistir, Llanelli. Rhoddwyd hysbysiad i’r busnes yn gofyn iddynt gyflwyno nodiadau trosglwyddo gwastraff o fewn 7 diwrnod ac nid oeddent wedi gwneud hynny. Rhoddwyd hefyd hysbysiad cyfreithiol i’r busnes i sicrhau bod unrhyw wastraff o’r busnes yn cael ei waredu’n gywir yn y dyfodol.
Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae cyflwyno teledu cylch cyfyng yng nghyfleuster ailgylchu Carwe wedi ein galluogi i roi pen ar waredu gwastraff yn anghyfreithlon ar y safle hwn. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pawb bod yn rhaid rhoi’r holl wastraff sy’n cael ei waredu yn ein cyfleusterau ailgylchu yn y cynhwysydd cywir, gan fynd â’r holl fagiau a bocsys o’r safle.”
“Bydd strategaeth teledu cylch cyfyng y Cyngor yn cael ei hymestyn i gyfleusterau ailgylchu eraill yn y sir yn y misoedd nesaf er mwyn helpu i leihau achosion o dipio anghyfreithlon yn yr ardaloedd hyn.”
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cael gwared ar wastraff i wneud hynny mewn modd cyfrifol. Mae gennym ganolfannau ailgylchu yn Nantycaws (Caerfyrddin), Trostre (Llanelli), Wernddu (Rhydaman) a Hendy-gwyn ar Daf yn ogystal â gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a chasgliadau gwastraff y cartref wythnosol. Wrth dalu am gael gwared ar sbwriel, defnyddiwch fusnes trwyddedig a sicrhewch eich bod yn cael nodyn trosglwyddo gwastraff dilys pan fydd gwastraff yn cael ei gasglu.”
I gael rhagor o wybodaeth am waredu gwastraff ewch i Sirgar.llyw.cymru/ailgylchu
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle