Mae Llys-y-frân wedi datblygu ei ddarpariaeth gweithgareddau dros y 18 mis diwethaf, ac ers ychwanegu Rheolwr Gweithgareddau newydd – Hope Filby – mae’r Tîm Gweithgareddau’n mynd o nerth i nerth. Mae’r tîm o bymtheg yn arbenigwyr mewn darparu chwaraeon dŵr, ac maent wedi ehangu eu gwybodaeth a’u set sgiliau trwy gyflwyno saethyddiaeth, taflu bwyeill a wal ddringo.
Yn ddiweddar, trefnodd y Tîm Gweithgareddau ddigwyddiad beicio yn Llys-y-frân, y cyntaf o’i fath. Cynhaliwyd yr achlysur dydd Sadwrn 17 Medi, a bu’n llwyddiant ysgubol. Gyda chwe chategori, denodd yr achlysur bobl o bob oedran, gan gynnwys categori beics retro. Cyflwynwyd medalau a gwobrau i’r enillwyr, gyda chefnogaeth y siop feics leol, ‘2WheelsRUs’, a’r ap hyfforddi proffesiynol ‘The Pillar App’. Roedd y ras yn cynnwys dringo bryn serth 0.5 milltir o hyd gyda chefnogwyr yn cymell ac yn cymeradwyo’r beicwyr ar bob cam o’r ffordd.
Dywedodd y Rheolwr Gweithgareddau, Hope Filby ‘Roeddem ni wrth ein boddau i weld cynifer o bobl yn cymryd rhan yn Nringfa Llys-y-frân dydd Sadwrn. Er gwaetha’r ddringfa ymestynnol, cyrhaeddodd pob un y top a gwelsom ni ambell i amser anhygoel! Rydyn ni wrthi nawr yn gweithio ar ail Ddringfa Llys-y-frân, a fydd yn cynnig dau lwybr newydd i’r cystadleuwyr roi cynnig arnynt. Bydd yr her yn parhau dydd Sadwrn, 4 Chwefror 2023, felly cofiwch nodi’r dyddiad.”
Mae ymroddiad y Tîm Gweithgareddau wedi ennill cydnabyddiaeth gyda’r cyhoeddiad diweddar fod Llys-y-frân wedi cael ei ddewis ar gyfer rownd derfynol y Gwobrau Croeso yn y categori ‘Darparydd Gweithgareddau/Profiadau’r Flwyddyn’.
Dywedodd y rheolwr, Mark Hillary ‘Camp a hanner yw hi i Lys-y-frân cael eu dewis ar gyfer ffeinal Gwobr Croeso! Rydyn ni’n anelu bob amser at gynnig gweithgareddau hwyliog a chyffrous i bawb gymryd rhan ynddynt, ac mae cael ein dethol yn dyst i waith caled ein tîm yn eu rolau yma. Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur, ac rydyn ni wedi croesawu nifer o grwpiau ysgol dros fisoedd yr haf. Mae’r adborth gan athrawon a disgyblion wedi bod yn anhygoel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal mwy o lawer o ddiwrnodau gweithgaredd yn 2023. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n croesawu Coleg Sir Benfro am gyfres o weithgareddau i’r myfyrwyr ar y dŵr ac ar dir sych, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr.”
Cynhelir seremoni wobrwyo’r Gwobrau Croeso ar 20 Hydref yng Nghrug Glas, Tyddewi. Mae’r Tîm Gweithgareddau’n edrych ymlaen at roi seibiant i’w siwtiau gwlyb a gwisgo yn eu dillad gorau am noson!
Mae digwyddiadau’n rhan allweddol o’r profiad i ymwelwyr yn Llys-y-frân, a disgwylir cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn. Y digwyddiad nesaf yw’r ‘Ffair Fwyd a Diod’ gyntaf ar 22 Hydref, wedyn digwyddiad newydd cyffrous i ddathlu noson tân gwyllt, a Ffair Nadolig. Mae rhagor o fanylion ar y wefan: https://llys-y-fran.co.uk/events/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle