Llwybr Arfordir Cymru ar y trên

0
237
Angelsey

Mae eleni yn nodi deng mlynedd ers sefydlu Llwybr Arfordir Cymru ac mae Trafnidiaeth Cymru yn dathlu’r garreg filltir drwy lansio ymgyrch i ddangos sut y gellir defnyddio’r trên i gael mynediad at 870 milltir o arfordir. 

Mae Llwybr Arfordir Cymru bellach yn adnabyddus ledled y byd, gan gynnig cyfle unigryw i gerddwyr gerdded ar hyd perimedr cyfan Cymru a mwynhau golygfeydd godidog y wlad. 

Mae’r ymgyrch ‘o’r cledrau i’r llwybrau’ a lansiwyd gan Trafnidiaeth Cymru yn amlygu sut y gellir cael mynediad hawdd i wahanol rannau o’r llwybr o wahanol orsafoedd rheilffordd ar Rwydwaith Cymru a’r Gororau, pob man o’r Fflint yn y Gogledd i Ddinbych-y-pysgod yn y Gorllewin.

Mae Trafnidiaeth Cymru am ddenu mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a bydd yr ymgyrch hon yn darparu gwybodaeth berthnasol i’r rhai sy’n teithio at ddibenion twristiaeth a hamdden.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth: “Nid yw pobl bob amser yn ymwybodol bod ein rhwydwaith rheilffyrdd yn cynnig mynediad cyfleus i’n harfordir anhygoel.  Mae hon yn ymgyrch wych sy’n rhoi gwybodaeth i gerddwyr am y cysylltiadau rheilffordd agosaf at y llwybrau y maent am eu dilyn ar hyd ein llwybr arfordirol, gan gyfuno dwy agwedd allweddol ar ein cynlluniau ar gyfer datblygu trafnidiaeth gynaliadwy – teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC: “Mae Llwybr Arfordir Cymru yn un o brif atyniadau ein gwlad, nid yn unig i’r rhai sy’n ymweld â Chymru ond hefyd i’r rhai sy’n byw yng Nghymru.  Mae’n cwmpasu ein gwlad gyfan fel y mae ein rhwydwaith rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.  Bydd yr ymgyrch ‘o’r cledrau i’r llwybrau’ yn annog pobl i ddefnyddio ein rhwydwaith rheilffyrdd i gael mynediad at y llwybr gan gynnig opsiwn mwy cynaliadwy na defnyddio’r car.”

“Yn TrC rydym yn gweithio i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chreu rhwydwaith mwy cydgysylltiedig sy’n fwy hygyrch fydd yn denu mwy o bobl i’w defnyddio.  Bydd hyn yn ein helpu ni i gyd yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”

Ychwanegodd Sioned Humphreys o Lwybr Arfordir Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar yr ymgyrch o’r cledrau i’r llwybrau.  Mae llawer o’r gorsafoedd mewn lleoliad cyfleus, yn agos at y llwybr – nid yn unig maent yn caniatáu i gerddwyr gyrraedd man cychwyn y daith ond hefyd i ddychwelyd iddynt heb orfod mynd am yn ôl ar eu taith”.

Caiff yr ymgyrch ei lansio ar 20fed Medi 2022.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle