Bydd tîm o gogyddion ifanc dawnus yn chwifio baner Cymru gyda balchder yng Nghwpan y Byd Coginio yn Lwcsembwrg ym mis Tachwedd.
Bydd Tîm Coginio Ieuenctid Cymru yn cystadlu yn erbyn 15 tîm arall o bob rhan o’r byd yn yr ornest goginio fawreddog, a gynhelir rhwng Tachwedd 26 a 30.
Mae dwy elfen wahanol i’r gystadleuaeth: cegin boeth Bwyty’r Cenhedloedd lle mae’n rhaid i dimau baratoi pryd tri chwrs i 70 o bobl a ‘Bwrdd Tân’ lle bydd y timau’n paratoi pedwar math gwahanol o fwyd bys a bawd oer a phoeth; platiaid oer, Nadoligaidd, o bysgod neu fwyd môr; prif gyrsiau poeth a phwdin i 12 o bobl.
Bydd Cymru yn cyflwyno ei ‘Bwrdd Tân’ ddydd Sul, Tachwedd 27 cyn mynd i mewn i’r gegin boeth y dydd Mawrth wedyn.
Rheolwr Tîm Coginio Ieuenctid Cymru yw Michael Evans, darlithydd ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a’r hyfforddwr yw Danny Burke, cydberchennog Olive Tree Catering, Runcorn a chyn gapten Tîm Coginio Hŷn Cymru.
Capten y tîm yw Calum Smith sy’n chef cynnyrch crwst mewn ysgol breifat yn Amwythig, a’r aelodau eraill yw Harry Paynter-Roberts, sous chef yn y Carden Park Hotel and Spa, ger Caer, Sion Hughes, pen-cogydd yn The Spa at Carden Park Hotel, Stephanie Belcher, chef de partie yn Coast, Saundersfoot, Harry Osborne, o’r Quay Hotel and Spa, Deganwy a Jay Rees, sy’n astudio am radd gyda Grŵp Llandrillo Menai. Mae Sion a Harry Osborne prif gogydd l cystadleuaeth Cogydd Ifanc Cymru cyn hyn.
Aelodau’r garfan a fydd yn cefnogi’r tîm yn Lwcsembwrg yw Amira Milner o Signatures Restaurant, Conwy, Heather Spencer, commis chef yn y Links Hotel, Llandudno a Pippa Taylor, sy’n gwneud gradd yn y Celfyddydau Coginio ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos.
“Mae yna gyfuniad da o sgiliau, gwybodaeth ac ieuenctid yn y garfan,” meddai Michael. “Mae eu datblygiad dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn wych ym mhob ymarfer ac maen nhw’n codi’r safon o hyd o ran eu hymdrech a’r prydau y maen nhw’n eu cynhyrchu.
“Rydyn ni’n trefnu cyfres o benwythnosau hyfforddi a phrydau ymarfer er mwyn perffeithio’r prydau yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd Coginio.
“Ein cenhadaeth yw dal i ddatblygu cogyddion ifanc yng Nghymru a fydd, gobeithio, yn symud ymlaen i Dîm Coginio Uwch Cymru yn y dyfodol.””
Dywedodd Graham Tinsley, MBE, cyfarwyddwr coginio Cymdeithas Goginio Cymru: “Mae gan y tîm ieuenctid botensial mawr oherwydd mae’r cogyddion yn ymroddedig iawn, yn ymarfer yn galed ac wedi creu prydau gwych.
“Maen nhw’n cydweithio’n dda iawn o dan arweiniad Mike, sy’n drefnydd da, a Danny, sy’n gogydd ardderchog gyda llawer o brofiad o gystadlu.”
Noddir Cymdeithas Goginio Cymru gan Bwyd a Diod Cymru, Castel Howell, Churchill, Major International, Dick Knives, MCS Tech Products, Hybu Cig Cymru, GrŵpLlandrillo Menai, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Roller Grill ac Ecolab.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle