Cartref Gofal Plas-y-bryn, Cwmgwili 

0
199
Plas Y Bryn Care Home, Cwmgwili

Yn dilyn pryderon sylweddol ynghylch ei sefyllfa ariannol a’i anallu i dalu ei staff a’i gredydwyr, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gorfod rhoi rhybudd ar ei gytundeb i ddarparu gofal i Gartref Gofal Plas-y-bryn, Cwmgwili. Mae’r preswylwyr ym Mhlas-y-bryn yn cael cefnogaeth i ddod o hyd i gartrefi newydd gan dîm ymroddedig o weithwyr cymdeithasol a rheolwyr y cyngor.

Er bod hyn yn siom fawr i’r cyngor, rydym wedi bod yn darparu cymorth ariannol sylweddol i sicrhau y gall y cwmni gofal gyflawni ei rwymedigaethau ariannol ac nad yw gofal yn cael ei effeithio. Mae hyn wedi cynnwys gwneud taliadau rheolaidd o flaen llaw er mwyn galluogi’r cwmni i dalu cyflogau staff.

O ganlyniad, mae’r cyngor wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i roi rhybudd i’r cwmni gofal. Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad ac rydym yn rhannu’r pryderon dwfn sydd gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y cartref gofal.

Gwnaed ymdrechion parhaus i weithio gyda’r gweithredwyr i ddeall eu sefyllfa ariannol. Ystyriwyd amrywiaeth o ddewisiadau amgen ond, yn anffodus, oherwydd amgylchiadau cyfreithiol ac ariannol y cwmni gofal, ni ellir dod o hyd i unrhyw atebion ymarferol ar hyn o bryd.

Hoffem gydnabod a diolch i staff Cartref Gofal Plas-y-bryn am eu hymrwymiad i ddarparu gofal o safon uchel a phwysleisio nad yw safon y gofal wedi bod yn ffactor sydd wedi cyfrannu at y penderfyniad anodd hwn ar unrhyw adeg.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Mae llesiant preswylwyr Plas-y-bryn o’r pwys mwyaf ac rydym wedi gweithredu’n gyflym i gefnogi’r cartref gofal i barhau i ddarparu gofal rhagorol i’w breswylwyr.

“Rydym yn cefnogi’r preswylwyr ynghyd â’u teuluoedd a’u perthynas agosaf, yn ystod sefyllfa anodd a gofidus iawn, i ddod o hyd i lety addas a digonol iddynt mewn cartrefi newydd.

“Ar ran y cyngor, hoffwn ddiolch o galon i’r staff ym Mhlas-y-bryn am eu gwaith amhrisiadwy yn y cartref gofal. Rydym hefyd yn eu cefnogi nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn wrth iddynt barhau i ddarparu gofal i’r preswylwyr.”

Cyn i’r cytundeb ddod i ben, bydd y cyngor yn gweithio gyda phobl a’u teuluoedd dros yr wythnosau nesaf i ddod o hyd i gartrefi newydd lle gallant gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth i symud i leoliadau o’u dewis. Mae’r preswylwyr hefyd yn cael mynediad at wasanaethau eiriolaeth i’w cefnogi drwy’r cyfnod anodd hwn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle