Cadw’n iach y gaeaf hwn – sioeau teithiol Sir Gaerfyrddin 

0
261
Credit: Public Health Wales

Bydd Tîm Gofal Cymdeithasol a Diogelu Iechyd Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd o gwmpas y sir yr wythnos nesaf i hyrwyddo ffyrdd y gall y gymuned amddiffyn ei hun wrth i’r gaeaf agosáu.

Fel rhan o Wythnos Ryngwladol Atal Heintiau 2022 (16-22 Hydref) bydd y timau yn cynnal sesiynau yn y canolfannau HWB yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli rhwng 10am a 2pm ar y dyddiadau canlynol:

  • Llanelli – Dydd Llun, 17 Hydref a dydd Iau, 20 Hydref
  • Caerfyrddin – Dydd Llun, 17 Hydref a dydd Mercher, 19 Hydref
  • Rhydaman – Dydd Gwener, 21 Hydref.

Gall trigolion ddysgu mwy am y camau allweddol i’w cymryd i atal a rheoli heintiau yn effeithiol a fydd yn eu helpu i gadw’n ddiogel ac yn diogelu pobl agored i niwed wrth i’r gaeaf agosáu.

Mae hyn yn cynnwys hylendid dwylo da, hylendid anadlol a phwysigrwydd brechiadau rhag y ffliw a Covid wrth atal clefydau fel firysau anadlol a heintiau gastroberfeddol rhag lledaenu.

Bydd y cyngor hefyd yn hyrwyddo negeseuon allweddol i ysgolion, cartrefi gofal a busnesau i dynnu sylw at bwysigrwydd rheoli heintiau wrth i’r gaeaf agosáu. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle