Dweud eich dweud am ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion

0
723

Gwahoddir disgyblion a chyn-ddisgyblion, staff, rhieni a darpar rieni a chyflogwyr i rannu eu barn ar ddarpariaeth ôl-16 yn y Sir.

Yn Ionawr 2022, penderfynodd Cabinet y Cyngor y dylid adolygu’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion er mwyn derbyn dadansoddiad ac arfarniad diweddar o’r ddarpariaeth ôl-16 yn y sir.

Wyn Thomas yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, dywedodd: “Rwy’n annog pawb sy’n cael cyfle i roi eu barn i wneud hynny, er mwyn i’r Cyngor gael trosolwg cyflawn o’r ddarpariaeth ôl-16 yn y sir.”

Bydd gwybodaeth a ddaw o’r holiadur, ynghyd â dadansoddiadau o ffynonellau gwybodaeth eraill, yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ar gychwyn 2023.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle