Mae Ceramica Botanica yn ddathliad o grochenwaith a serameg cyfoes wedi’u gwneud â llaw o bob rhan o dde Cymru a thu hwnt.
Bydd y digwyddiad yn cael ei chynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar ddydd Sadwrn a dydd Sul Hydref 29-30.
Bydd yna 27 o grochenwyr yn mynychu, felly dyma gyfle gwych i gwrdd â nhw a darganfod sut y maent yn creu eu gwaith.
Cewch weld amrywiaeth o waith, o nwyddau ymarferol i’r cartref i gerfluniau addurniadol. Mae’r rhain yn cael eu gwneud gan ddefnyddio gwahanol dechnegau ac offer, megis troel y crochenydd a gan law.
Wedi’i leoli yn y Tŷ Gwydr Mawr syfrdanol dros y penwythnos cyfan, dewch i fanteisio ar y cyfle i ddarganfod serameg ymarferol ac addurniadol at ddant a chyllideb pawb, gan hefyd dechrau eich siopa Nadolig – gan brynu’n uniongyrchol o’r gwneuthurwyr.
Grŵp o grochenwyr a seramegyddion yw South Wales Potters, ac mae’r aelodau’n cynnwys crochenwyr, cerflunwyr a myfyrwyr, yn ogystal â chrochenwyr hobi a selogion. Bydd y digwyddiad yn rhoi’r cyfle i arddangos amrywiaeth o’u gwaith, gyda’r cyfle i weld gwaith serameg gan wneuthurwyr profiadol yn ogystal â thalent newydd sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r digwyddiad wedi’i cynnwys yn nhâl mynediad arferol yr Ardd Fotaneg ac mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 6yh.
Am fwy o wybodaeth ar South Wales Potters, ewch i’w gwefan: https://www.southwalespotters.org.uk/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle