Mae cyfraniadau elusennol yn helpu i ariannu eitemau ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod newydd yn Ysbyty Glangwili 

0
215
Yn y llun uchod: Staff yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod newydd yn Ysbyty Glangwili

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ariannu gwerth dros £30,000 o eitemau ac offer ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) newydd yn Ysbyty Glangwili.

Mae’r uned newydd, a agorwyd yn swyddogol ym mis Ionawr eleni, yn gofalu am rai o’r babanod newydd-anedig mwyaf agored i niwed ac yn gwasanaethu teuluoedd ar draws y Canolbarth a’r Gorllewin.

Mae’r uned o’r radd flaenaf hon wedi ei hadeiladu’n bwrpasol i ddiwallu anghenion babanod newydd-anedig a’u teuluoedd, yn ogystal â’r tîm newyddenedigol sy’n gofalu amdanynt.

Meddai Karen Jones, Uwch Nyrs Newyddenedigol: “Dymunwn ddiolch i’r teuluoedd sydd wedi rhoi yn hael i’n galluogi i brynu offer meddygol. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich haelioni.”

Mae cyfraniadau elusennol wedi helpu i brynu ystod o eitemau ar gyfer yr uned gan gynnwys offer arbenigol megis dadansoddwyr ocsigen a monitor i gynorthwyo’r gwaith o fonitro gweithrediad yr ymennydd.

Mae’r dadansoddwyr ocsigen yn rhoi gwybodaeth gywir ar y canran o ocsigen a roir i fabanod sydd angen cymorth anadlol, a bydd yn cynorthwyo’r broses o ddiddyfnu babanod a anwyd cyn pryd oddi ar ocsigen, fel y gallant anadlu heb gymorth.

Mae’r monitor gweithrediad yr ymennydd (CFM), sy’n werth dros £14,000, yn fonitor wrth ochr y gwely sy’n cofnodi gweithrediad yr ymennydd yn barhaus, gan helpu i ddangos a yw babi’n profi gweithgarwch trydanol annormal fel trawiadau/ffitiau.

Yn ogystal, mae’r elusen wedi ariannu eitemau sy’n ceisio gwneud amser y teulu yn yr uned mor gyfforddus â phosibl gyda’r nod o wella eu profiad cyffredinol o’r Uned SCBU.

Defnyddiwyd arian elusennol i brynu eitemau ar gyfer yr ystafell dawel er mwyn sicrhau bod yr ystafell yn gyfforddus ac yn gartrefol. Defnyddiwyd yr arian hefyd i brynu eitemau ar gyfer lolfa’r teulu.

Mae eitemau eraill yn cynnwys ‘pecynnau gofal’ newydd, sy’n cynnwys amrywiaeth o eitemau megis hetiau, pethau ymolchi, poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio a chwpanau coffi, a sgwariau bondio ar gyfer mamau, tadau a babanod.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle