Llwyddo i Gwblhau’r Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth yng Nghymru

0
363
Daniel Harrison, Rhys Jones, Simon Miller, Tilhill Wales Senior Forest Manager, Thomas Mellars, Lewis Hosking and Andy White, Head lecturer in forestry, Coleg Cambria Llysfasi.
  • Wedi eu dewis o blith dros 50 o ymgeiswyr, mae’r pedwar hyfforddai bellach wedi cwblhau eu hyfforddiant a oedd wedi’i ariannu’n llawn yng Ngholeg Cambria Llysfasi
  • Mae llwyddiant y rhaglen hyfforddi yn golygu y bydd Tilhill a Foresight Sustainable Forestry yn ei hailadrodd yn flynyddol yng Nghymru, ac o bosibl yn ei hymestyn i’r Alban a Lloegr.

Mae Tilhill, prif gwmni creu coetiroedd, rheoli coedwigoedd a chynaeafu pren y DU, a Foresight Sustainable Forestry Company Plc, cwmni buddsoddi cyfalaf naturiol rhestredig cyntaf y DU, yn falch o gyhoeddi bod y ‘Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Gynaliadwy Foresight’ gyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru bellach wedi cael ei chwblhau’n llwyddiannus.

Cafodd y rhaglen ei lansio yn ystod haf 2022 i helpu pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru i gael cyflogaeth mewn coedwigaeth yn eu cymuned leol yng Nghymru.  Mae prinder sgiliau yn y DU wrth iddi geisio cyrraedd targedau uchelgeisiol i blannu rhagor o goed i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a diwallu’r angen cynyddol am bren sy’n cael ei dyfu yn y DU. Ni ellir cyrraedd y targedau heb uwchsgilio ac ehangu’r gweithlu contractwyr coedwigaeth.

Tilhill Llysfasi

Roedd dros 50 o ymgeiswyr wedi gwneud cais am y rhaglen ac mae’r pedwar hyfforddai a ddewiswyd bellach wedi cwblhau eu hyfforddiant a oedd wedi cael ei ariannu’n llawn dros dair wythnos wahanol yng Ngholeg Llysfasi, Cambria, gan ennill cymwysterau pwysig mewn plannu coed, defnyddio llif gadwyn, gyrru tractor, a llawer mwy.

Mae’r pedwar hyfforddai – Lewis Hosking 20, Thomas Mellars, 24, Daniel Harrison, 22 a Rhys Jones, 16 – yn dod o bob cwr o Gymru ac o amrywiaeth o gefndiroedd.

Dywedodd Richard Kelly, Cyd-arweinydd Foresight Sustainable Forestry Company:

“Llongyfarchiadau i Lewis, Thomas, Daniel a Rhys am lwyddo i gwblhau Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Gynaliadwy gyntaf Foresight.  Mae’r sgiliau, y cymwysterau a’r offer diogelwch a ddarparwyd drwy’r hyfforddiant bellach yn golygu eu bod mewn sefyllfa dda i weithio fel contractwyr ar draws y diwydiant coedwigaeth ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at eu croesawu i’n safleoedd yng Nghymru.  Yn enwedig ac ystyried targedau plannu coed uchelgeisiol y DU, mae llawer o bobl ifanc o gymunedau ffermio yn datblygu mwy o ddiddordeb a brwdfrydedd ynghylch gweithio ym maes coedwigaeth.  Mae’r ymateb rhagorol i’r rhaglen hyfforddi hon yn golygu ei bod yn fenter yr hoffem ei hailadrodd bob blwyddyn, yng Nghymru ac o bosibl ehangu i’r Alban a Lloegr.”

Foresight Sustainable Forestry skills Training Programme

Dywedodd Iwan Parry, Rheolwr Rhanbarthol Tilhill yng Nghymru a Choedwigwr Siartredig:: 

“Rydyn ni’n falch o groesawu pedwar newydd i’r diwydiant coedwigaeth, a’r pedwar wedi cael eu hyfforddi’n llawn. Mae’n amlwg bod ganddynt ddyfodol disglair o’u blaenau a byddwn yn eu gweld eto ar draws safleoedd creu coetiroedd yng Nghymru. Y cam nesaf yw i’r hyfforddeion gael eu mentora gan Reolwyr Coedwigoedd Tilhill, pobl sydd â phrofiad o gylchdroi cnydau coed yn llawn gan gynnwys plannu coed, rheoli coetiroedd a chynaeafu neu ailstocio coed o’r ansawdd gorau i gael pren sydd wedi cael ei dyfu yn y DU i gyflenwi marchnadoedd lleol. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i’r DU geisio disodli dur a choncrit sy’n allyrru carbon ym maes adeiladu â phren sydd wedi cael ei dyfu yn y DU mewn coedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy.” 

Dywedodd Andy White, Prif Ddarlithydd Coedwigaeth yng Ngholeg Cambria Llysfasi:

“Mae’r cwrs hwn wedi bod yn gyfle gwych i’r hyfforddeion ennill sgiliau, profiad a gwybodaeth amhrisiadwy, a llwybr cyflym i ennill amrywiaeth o gymwysterau pwysig a fydd yn eu paratoi am flynyddoedd lawer i ddilyn gyrfa ym maes coedwigaeth. Roedd yr hyfforddeion yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant ac fe wnaethon nhw’n dda i ddelio â chyflymder a phwysau dwys y pecyn hyfforddi.

Foresight SFSTP

“Maen nhw i gyd wedi elwa o’r cydweithio pwysig hwn rhwng addysg a diwydiant, yn y cynllun arloesol hwn sydd wedi’i gynllunio i helpu i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau pobl ifanc, i’w helpu a’u hannog yng nghamau cynnar eu gyrfa, ac i helpu i wella’r cyflenwad o weithwyr medrus sydd wedi’u hyfforddi yn y diwydiant coedwigaeth yn y dyfodol. Gyda hyfforddiant priodol i sicrhau bod gweithwyr yn ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon, mae coedwigaeth yn cynnig llawer o gyfleoedd gwaith amrywiol i weithio yn yr awyr agored, mewn diwydiant modern, technolegol a soffistigedig.  Mae ein hyfforddeion mewn sefyllfa dda erbyn hyn i fanteisio ar y cyfleoedd hyn ac maen nhw i gyd yn cael eu cyflogi mewn gwaith coedwigaeth. Dylai unrhyw un sy’n dymuno dilyn eu hesiampl gysylltu â’r coleg i drafod yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael.”

Tilhill and Foresight Trainees and Simon Miller

Dywedodd Daniel Harrison, 22 o Geredigion: “Dyma un o’r profiadau gorau i mi eu cael hyd yma! Byddwn i’n ei argymell yn gryf i unrhyw un sydd eisiau gwneud rhywfaint o hyfforddiant.”

Dywedodd Lewis Hosking, 20 a oedd yn gweithio ar fferm yn wreiddiol cyn dod yn gontractwr coedwigaeth: “Fe wnes i gais am y rhaglen oherwydd mod i’n gwybod y byddai’n fy helpu yn nes ymlaen yn fy mywyd drwy gael llawer mwy o dystysgrifau a dysgu rhagor am goed. Y cwrs tractor a strimio wnes i fwynhau fwyaf. Fe wnes i ddysgu lot a chwrdd â lot o bobl newydd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle