Prifysgol yn creu cyfleusterau efelychu o’r radd flaenaf i hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol y dyfodol

0
239
Work has begun to transform the former Haldane building into the new SUSiM centre at Swansea Univerity’s Singleton campus.

Mae gwaith bellach yn mynd yn ei flaen ar gyfleusterau addysgu newydd uwch-dechnoleg a fydd yn rhoi Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran addysg gofal iechyd.

Credir mai dyma’r gosodiad mwyaf o dechnoleg swît efelychiad wal trochi o’i fath yn y DU, a bydd y ganolfan wrth galon SUSiM, rhaglen arbenigol y Brifysgol a lansiwyd i ehangu efelychu arloesol ac addysg drochi.

Mae hen adeilad Haldane ar gampws Singleton yn cael ei drawsnewid yn ganolfan o’r radd flaenaf sy’n cynnwys wyth o ystafelloedd efelychu waliau trochi gyda thair ystafell arall yn cael eu datblygu ar yr un pryd ar gampws Parc Dewi Sant y Brifysgol yng Nghaerfyrddin.

Yn goruchwylio’r prosiect SUSiM mae Cyfarwyddwr Addysg Efelychu’r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd – yr Athro Cyswllt Jo Davies. Dywedodd y bydd myfyrwyr o bob rhan o ystod y brifysgol o gyrsiau gofal iechyd yn gallu elwa ar amrywiaeth eang o senarios byd go iawn a chyfleoedd dysgu trwy brofiad.

Meddai: “Gan adeiladu ar ragoriaeth Prifysgol Abertawe mewn addysgu ac ymchwil, y weledigaeth ar gyfer rhaglenni a chyfleusterau SUSiM yw darparu’r safonau uchaf o addysg, arloesedd ac ymchwil sy’n seiliedig ar efelychu yn y maes hwn sy’n ehangu’n gyflym.

“Bydd y canolfannau’n caniatáu i’n myfyrwyr hyfforddi gyda’i gilydd yn un o’r gosodiadau unigol mwyaf o ystafelloedd efelychu waliau trochi, a gefnogir gan gyfadran efelychu hyfforddedig sy’n canolbwyntio ar gleifion, teulu, ansawdd a diogelwch cymunedol mewn addysg gofal iechyd.

“Bydd rhaglen SUSiM yn darparu cyfleoedd addysgol hynod realistig i fyfyrwyr gofal iechyd, partneriaid bwrdd iechyd a deiliaid diddordeb.”

Mae hi a’i thîm yn cydweithio â Deoniaid Efelychu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i gyfrannu at ddatblygu adnoddau efelychu yn ogystal â byrddau iechyd a chanolfannau a busnesau academaidd eraill yn y wlad hon.

Efallai na fydd yr ystafelloedd yn barod i groesawu myfyrwyr tan fis Medi y flwyddyn nesaf, ond mae eisoes gan y Brifysgol grŵp o hyrwyddwyr SUSiM – tîm o staff rhyngbroffesiynol sy’n barod i gefnogi myfyrwyr a chydweithwyr wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau gan ddefnyddio dysgu seiliedig ar efelychu a’n technoleg efelychu presennol.

Bydd y switiau wal trochi yn adeiladu ar lwyddiant yr adnoddau hyfforddi presennol fel efelychiadau cleifion – efelychiad ar sail manicin yn amrywio o adnoddau technoleg isel i uwch – yn ogystal â datblygiadau mewn realiti estynedig, rhithwir, a realiti â chymorth, gyda chefnogaeth tîm gweithrediadau medrus iawn dan arweiniad Mark Hughes – Pennaeth technegol, seilwaith ac amgylchedd Prifysgol Abertawe.

Hyd yma, mae gwaith y tîm wedi ennill cydnabyddiaeth eang yn y DU ac ar draws y byd. Gofynnwyd i dîm SUSiM roi sgwrs yng nghynhadledd Association for Simulated Practice in Healthcare fis nesaf tra bydd yr Athro Cyswllt Jo Davies hefyd yn cyflwyno yng nghynhadledd yr International Society for Simulation In Healthcare IMSH yn Fflorida’r flwyddyn nesaf.

Gobeithir y bydd yr ymgysylltiad proffil uchel yn dod â chyfleoedd i brosiect SUSiM gydweithio â hyd yn oed mwy o raglenni efelychu rhyngwladol, busnesau ac arbenigwyr SBE.

Mae gan yr Athro Cyswllt, Jo Davies brofiad helaeth o sefydlu cyfleusterau a rhaglenni dysgu efelychiedig ac mae’n gyffrous i fod yn rhan o ddatblygiad mor fawr mewn addysg ac ymchwil gofal iechyd.

Ychwanegodd: “Mae’r weledigaeth o ddatblygiadau mawr mewn addysg sy’n seiliedig ar efelychu a dysgu trochi wedi’i chefnogi’n fawr gan dîm arwain Prifysgol Abertawe, gyda’r bwriad o gefnogi cymhlethdodau cynyddol o hyfforddi timau gofal iechyd diogel a hyfedr.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â’r gyfadran aml-broffesiynol ragorol, myfyrwyr a chymunedau wrth i gyfleusterau a rhaglenni SUSiM ddwyn ffrwyth.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle