Gorau Canu Cyd Ganu – canu caneuon anthemig gyda’r Mentrau Iaith

0
463
Y Llyfryn Canu

Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni.

Er mwyn cael pawb yn y gymuned at ei gilydd mae’r Mentrau Iaith lleol ar draws Cymru yn cynnal sesiynau canu cymunedol gyda chaneuon anthemig fel Yma o Hyd (wrth gwrs!), Calon Lân a Hogia Ni. Mae’r caneuon i gyd mewn llyfryn bach sydd yn cynnwys fersiwn Gymraeg a fersiwn ffonetig ochr yn ochr i siaradwyr Cymraeg – profiadol neu newydd – a siaradwyr di-Gymraeg allu cyd-ganu. Caneuon Dafydd Iwan ydy’r ysbrydoliaeth i’r gweithgareddau a Mae’n Wlad i Mi ydy’r gân sydd wedi ysbrydoli’r syniad i gynnal y sesiynau canu cymunedol yma sydd ar gyfer pawb yng Nghymru.

Criw yn morio canu yn nhafarn y Vale, Ciliau Aeron

Tafarn y Vale yn Ystrad Aeron oedd lleoliad un o sesiynau cyntaf y Mentrau Iaith gyda Steff Rees o Cered, Menter Iaith Ceredigion yn arwain y sesiwn ar nos Fercher, 19 Hydref.

Meddai Peter a Sue Evans wnaeth fynychu’r noson yn y Vale:

“Diolch yn fawr i Steff a Cered am drefnu noson mor wych yn ‘Noson Canu yn y Vale’ dydd Mercher yma. Cawsom ni lawer o hwyl yn dysgu a chanu rhai caneuon traddodiadol mewn awyrgylch hyfryd lle roedd cyfle hefyd i ymarfer ein Cymraeg gyda dysgwyr eraill a siaradwyr iaith gyntaf. Mae llyfryn ‘Mae’n Wlad i Mi’ yn ‘great hit’ ac mae wedi’i gynllunio’n dda iawn gyda’r geiriau yn Gymraeg, canllaw ffonetig, cyfieithiadau a hyd yn oed cordiau gitâr. Mae’n mynd i fod yn gyfleus iawn ar gyfer Cwpan y Byd ac ein ymarferion gartref.”

Steff Rees, Cered – Menter Iaith Ceredigion yn arwain ar y canu

Meddai Steff Rees o Cered, y Fenter Iaith yng Ngheredigion, arweiniodd y noson:

“Mae’r llyfryn yn adnodd arbennig i ni fel Menter Iaith gan ei fod yn caniatáu ni i gynnal noson Gymraeg mewn tafarn neu leoliad cymunedol yn ddi-ffwdan. Roedd yr adborth o’r sesiwn yma yn arbennig a gwnes i fwynhau pob munud o arwain y noson. Dwi’n edrych ymlaen at y nesaf yn barod!”

Bydd sesiynau eraill yn Neuadd Llansilin, Tafarn Cwrw Caerfyrddin, Tŷ Tawe, Abertawe a llawer mwy. Mae rhestr o’r sesiynau a chopi digidol o’r llyfryn ar wefan Mentrau Iaith Cymru Gorau Canu Cyd Ganu – Canu Cymunedol | Y Mentrau Iaith

Criw gyda’u llyfryn canu

Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol o Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru. Esbonia Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru:

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r ymgyrch gyffrous hon. Mae’n gyfle arbennig i ddangos bod Cymru a’r Cymry yn croesawu pawb o bob cefndir i’n cymunedau trwy ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ac wrth gwrs yr iaith Gymraeg, ein diwylliant a threftadaeth. Gwlad y Gân ydy Cymru, felly be’ well na chyd-ganu i ddathlu?”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle