Helpu ein cymunedau trwy’r argyfwng costau byw 

0
213
Collaboration Event

Yn wyneb costau byw cynyddol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cynnal digwyddiad cydweithredu gyda’i randdeiliaid a’i bartneriaid i rannu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion gorau er mwyn sicrhau y gall yr holl asiantaethau gydweithio, tuag at ddarparu pecyn cymorth aml-asiantaeth ar gyfer aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Llanelli, lle cyfrannwyd at amrywiaeth o drafodaethau, a oedd yn canolbwyntio ar grwpiau poblogaeth penodol, er mwyn deall yn well anghenion presennol pobl a’r gefnogaeth sydd ar gael i bob grŵp.

Cafodd trafodaethau eu cynnal am y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer pobl sydd mewn gwaith ond sydd ar incwm isel, neu sy’n chwilio am waith, neu sy’n ddi-waith neu’n colli eu swyddi.

Un o brif ganolbwyntiau’r digwyddiad oedd sut orau i gefnogi mamau neu gyplau sy’n disgwyl plentyn, ynghyd â theuluoedd, myfyrwyr a phobl ifanc yn ystod cyfnod lle mae costau byw yn cynyddu’n sylweddol.

Roedd helpu pobl hŷn a phensiynwyr hefyd yn flaenllaw yn y digwyddiad, a chafodd asiantaethau eu hannog i rannu gwybodaeth am eu hymdrechion i gefnogi pobl sydd wedi cael profedigaeth, gofalwyr, pobl ag anableddau, pobl ag afiechyd neu bobl sydd wedi’u hanafu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Nod y digwyddiad cydweithio oedd ceisio nodi meysydd ar gyfer cydweithio posibl ar draws y sector yn yr ymdrech i atal tlodi, gwella bywydau pobl sy’n byw mewn tlodi, helpu pobl i gael gwaith a deall yn well yr heriau sy’n wynebu preswylwyr Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Arweinydd Cabinet, y Cynghorydd Linda Evans:

“Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn, ac mae pob yn ohonom yn poeni am filiau bwyd, ynni a thanwydd cynyddol. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn mynd o gwmpas bwrdd gyda’n rhanddeiliaid a’n partneriaid i sicrhau y gwneir popeth posibl, yn ein hymdrechion i gefnogi pobl Sir Gaerfyrddin yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.

“Hyd yn hyn, rydym ni fel cyngor wedi dosbarthu Cynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru i gartrefi ac ar hyn o bryd rydym yn darparu cefnogaeth bellach drwy Gronfa Ddewisol a Chynllun Cymorth Gaeaf Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi creu mannau cynnes yn ein llyfrgelloedd yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman ac rydym yn annog unigolion a grwpiau lleol i wneud cais am arian o’n Cronfa Tlodi, i helpu i ariannu digwyddiadau a mentrau newydd a phresennol a allai hefyd ddarparu Man Croeso Cynnes i breswylwyr fynd iddo, hyd yn oed os yw am ychydig oriau’r wythnos.”

Mae’r cynllun Mannau Croeso Cynnes yn cael ei gyllido drwy Gronfa Tlodi’r Cyngor.

Mae cyfanswm o £180,000 ar gael trwy Gronfa Tlodi Cyngor Sir Caerfyrddin a gyllidir gan Gronfa Ddewisol Llywodraeth Cymru a chynlluniau cyllid eraill Llywodraeth Cymru.

I wneud cais am arian ewch i dudalen y Gronfa Tlodi.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price:

“Mae’r ffigurau tlodi ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Cymru a’r DU yn syfrdanol. Mae 35.6% o aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi. Yng Nghymru, mae 17% o blant mewn tlodi yn byw mewn aelwydydd lle mae pob oedolyn yn gweithio, sy’n gynnydd o 5% dros y deng mlynedd diwethaf, ac mae bron i 1 o bob 5 pensiynwr yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

“Dyma’r bobl sydd fwyaf agored i niwed i gostau byw cynyddol, ac mae’n fater sy’n gwaethygu na all un sefydliad yn unig ei ddatrys.

“Pwrpas casglu ein partneriaid a’n rhanddeiliaid, yma mewn un lle, yw cydweithio a chydlynu ein hymdrechion i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein sir. Mae yna lawer o ffactorau sy’n cyfrannu at y risg y bydd rhywun mewn tlodi, felly mae’r dull o gefnogi rhywun sy’n byw mewn tlodi yn aml-haenog ac yn gofyn am gydweithrediad ar draws gwahanol asiantaethau a rhanddeiliaid.”

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin dîm penodol o ymgynghorwyr sydd yma i wrando a’ch helpu i wneud cais am y cymorth, y gwasanaethau a’r arian y gallech fod â hawl i’w cael.

Mae 2 ffordd o gael mynediad at y cymorth hwn.

Ar-lein – drwy fynd i dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi y Cyngor, lle gallwch gael gwybodaeth am amrywiaeth eang o gynlluniau cymorth neu drefnu i siarad ag ymgynghorydd

Ewch i un o’n Canolfannau HWB – yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a siaradwch ag un o’n hymgynghorwyr HWB cyfeillgar.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle