Hwb hanner marathon i Apêl Cemo Bronglais

0
176
Uchod: Mared Ingram

Da iawn i Mared Ingram, 23 oed, a redodd Hanner Marathon Llyn Efyrnwy a chodi £1,550 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Cwblhaodd Mared, sy’n Gynghorydd Cadwraeth Fferm ac yn byw ar y fferm deuluol ger Machynlleth, y ras mewn dwy awr ac 16 munud yn ôl ym mis Medi.

Meddai: “Mae pawb yn adnabod pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser. Mae’r oncolegydd ym Mronglais, Dr Elin Jones, hefyd yn lleol i’r ardal a phan glywais am yr Apêl roeddwn i eisiau helpu.

“Pan ydych chi’n byw mewn ardal wledig, yn aml mae’n rhaid i chi deithio am wasanaethau,

felly mae’n dda cael uned ddydd cemotherapi yn agos atom ni. A bydd uned newydd, bwrpasol hyd yn oed yn well.”

Mae Mared wedi rhedeg 10k o’r blaen ond dyma oedd ei hanner marathon cyntaf.

“O leiaf roedd o’n weddol fflat, oedd yn fonws,” ychwanegodd Mared (yn y llun). “Ond dyw rhedeg ddim yn dod yn naturiol i mi ac fe wnes i daro wal tua milltir 11. Ond daliais ati ac rydw i wedi gwirioni ar y swm a godwyd. Mae pobl wedi bod yn hael iawn o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Mared am ei chefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i’n helpu i gyrraedd ein targed.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk



Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle